Newyddion S4C

Ymdrech i 'achub' y diwydiant gwlân yng Nghymru

Ymdrech i 'achub' y diwydiant gwlân yng Nghymru

Mae Menter Môn wedi lansio prosiect cymdeithasol newydd i ychwanegu gwerth at wlân.

Nod ‘Gwnaed â Gwlân’ yw dod â phartneriaid o bob cwr o’r wlad ynghyd i ychwanegu gwerth, a gwireddu potensial gwlân fel adnodd cynaliadwy ac adnewyddadwy.

Yn ôl Elin Parry, Uwch Swyddog Cynlluniau Menter Môn, y straeon am “brisiau isel gwlân ar y newyddion” sydd wedi sbarduno'r prosiect.

“’Mi nathon ni benderfynu creu cyfres o webinarau ym mis Tachwedd flwyddyn ddiwethaf i edrych mewn yn bellach i’r sector.

“A thrafod efo siaradwyr gwadd be' allwn ni wneud i ychwanegu gwerth at y sector, a sut allwn ni helpu".

Defnyddio gwlân

Bydd y prosiect yn edrych ar sut y gellir defnyddio gwlân mewn sawl ffordd wahanol.

“'Dan ni wedi rhoi'r gwlân ar waelod planhigion, ma’n un da am gadw dŵr i mewn, ac mae yna faeth mewn gwlân.

“Dwi'n meddwl ein bod ni hefyd yn gobeithio defnyddio gwlân fel ffordd i insiwleiddio pecynnau bwyd", meddai Ms Parry.

Image
Planhigion
Arbrofi drwy ddefnyddio gwlân i dyfu planhigion.

Mae Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Crymu wedi dweud ei bod hi’n “falch” o’r cynllun.

“Mae gwlân yn adnodd naturiol, yr ydym yn ffodus iawn ohono yng Nghymru, ac mae hi’n hynod bwysig ein bod ni’n edrych ar ffyrdd o fanteisio ar ei botensial er budd ffermwyr a’r gymuned ehangach", ychwanegodd y Gweinidog.

“Gellid defnyddio gwlân naturiol mewn nifer o ffyrdd, ac rwyf yn gobeithio mai canlyniad y prosiect yma fydd y defnydd o wlân mewn ffyrdd arloesol a chynhyrchiol".

‘Cyfleodd yn deillio’

Bydd y cynllun yn dechrau fis Hydref eleni, gan obeithio gweld gwahaniaeth mewn prisiau gwlân yn y dyfodol yng Nghymru.

“Os ddim erbyn y tymor nesaf, yn sicr yn erbyn y tymor wedyn.

“'Dan ni’n gobeithio bydd rhan helaeth o’r gwaith yn digwydd dros y flwyddyn nesaf, a gobeithio o hynny fydd na fwy o gyfleoedd yn deillio", ychwanegodd Ms Parry.

Bydd British Wool yn cydweithio gyda Menter Môn er mwyn galluogi’r prosiect i ddefnyddio ei “arbenigedd o fewn y sector”.

Dywedodd Gareth Jones, Pennaeth Marchnata Cynhyrchwyr British Wool: “Mae hyn yn ein galluogi ni i ddefnyddio ein gwybodaeth a’n arbenigedd o fewn y sector i wneud cyfraniad cadarnhaol wrth adnabod cyfleoedd i gefnogi’r cynhyrchwyr a’r sector gwlân yng Nghymru".

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.