Newyddion S4C

Awdurdodau’n apelio am ofal dros Ŵyl y Banc

29/08/2021
Yma i Helpu Covid

Mae awdurdodau ar draws Cymru yn gofyn i’r cyhoedd i gymryd gofal a chadw Cymru'n daclus ar drothwy Gŵyl y Banc.

Dyma yw Sul Gŵyl y Banc cyntaf Cymru ers i’r wlad symud i Lefel Rhybudd Sero, sy’n golygu bod y rhan fwyaf o gyfyngiadau wedi eu codi, gan gynnwys ail-agor busnesau sy’n cynnwys clybiau nos.

Gyda thywydd braf wedi ei ddarogan dros Ŵyl y Banc, mae Parciau Cenedlaethol yn gweld nifer o ymwelwyr yn teithio i’w hardaloedd.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri wedi galw ar y cyhoedd i gadw Eryri yn lân ac yn glir o unrhyw sbwriel dros y penwythnos. 

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi rhybuddio bod meysydd parcio yn llenwi’n gyflym, gan alw ar bobl i gynllunio’u taith o flaen llaw.

Mae Cyngor Sir Penfro wedi cynyddu’r capasiti ar gyfer y gwasanaeth parcio a theithio dros benwythnos Gŵyl y Banc, gyda Pharc Cenedlaethol Arfordir Penfro yn gofyn i bobl droedio’n ysgafn. 

Mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn galw ar bobl i beidio â galw 999 oni bai bod argyfwng sy’n peryglu bywyd.  

Dywedodd Jason Killens, Prif Weithredwr, Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymreig GIG: “Byddem yn gofyn i chi i ddefnyddio eich GIG a’ch gwasanaeth ambiwlans argyfwng yn ddoeth.

“Rydym wedi bod yn hynod o brysur yn ystod yr wythnosau diwethaf ar draws Cymru a’r penwythnos hwn, wrth i’r tywydd fod yn gynhesach ac wrth i chi fod allan yn mwynhau’ch hunain, byddem yn gofyn i chi edrych ar ôl eich hunain”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.