Corwynt Ida yn agosáu at arfordir Louisiana

Mae rhybuddion bod Corwynt Ida yn fwy peryglus nag o'r blaen wrth iddo symud tuag at arfordir talaith Louisiana yn yr UDA.
Mae'r corwynt bellach wedi ei uwchraddio i Gategori 4, gyda disgwyl iddo gyrraedd y tir yn ddiweddarach.
Daw hyn union 16 mlynedd ers i Gorwynt Katrina achosi difrod mawr yn Louisiana a Mississippi.
Fore Sul, cafodd hyrddiadau parhaus o hyd at 130 milltir yr awr eu cofnodi wrth i Ida agosáu at y tir.
Mae'r storm yn bygwth rhanbarth sydd eisoes yn gorfod ymdopi gyda chynnydd yn y nifer o achosion o Covid-19, yn ôl The Los Angeles Times.
Darllenwch y stori'n llawn yma.