Cipolwg ar benawdau’r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Iau, 22 Gorffennaf.
Cyhoeddi cynlluniau i ‘drawsnewid’ gofal brys yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid y broses o ddarparu gofal brys a gofal mewn argyfwng, a hynny yn ystod cyfnod sy’n “eithriadol o heriol” i wasanaethau. Mae’r cynlluniau yn seiliedig ar chwe nod ar gyfer y system iechyd a gofal, fydd yn cael ei gefnogi gan gyllid o £25m y flwyddyn. Dywed y llywodraeth mai diben y cynlluniau yw helpu pobl i gael y “gofal iawn, yn y lle iawn, cyn gynted ag sy’n bosibl”.
Manwerthwyr 'dan bwysau' i gadw silffoedd yn llawn oherwydd y 'pingdemig'
Mae manwerthwyr wedi dweud eu bod "dan bwysau" i gadw silffoedd yn llawn wrth iddyn nhw wynebu prinder staff yn sgil yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel 'pingdemig'. Yn ôl Sky News, mae Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC) yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu er mwyn newid rheolau ap y Gwasanaeth Iechyd sydd yn rhybuddio pobl i aros adref am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd â Covid-19.
Galw ar bobl i ‘beidio gwastraffu’ dŵr yn sgil y gwres eithafol
Mae Dŵr Cymru yn annog pobl i beidio â bod yn wastraffus wrth i’r galw am ddŵr gynyddu yn ystod y tywydd poeth. Daw hyn wedi i’r tymheredd yng Nghaerdydd gyrraedd 32C ddydd Mercher – diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn. Mae Dŵr Cymru yn dweud bod rhaid iddyn nhw ddosbarthu 150 miliwn litr ychwanegol o ddŵr wrth i’r galw gynyddu, yn ôl ITV Cymru.
Gobeithion Cymru yn y Gemau Olympaidd
Gyda’r Gemau Olympaidd yn Tokyo ar fin dechrau, mae Cymry ymhlith yr athletwyr sydd yn gobeithio ennill medalau yn y gemau. Er y bydd hi’n gystadleuaeth wahanol iawn eleni, gyda chefnogwyr wedi eu gwahardd oherwydd y pandemig, mae gobeithion Cymru yn parhau yn uchel.
Nyrsys i gydweithio â thîm rygbi hoyw i hybu iechyd rhyw
Mae nyrsys arbenigol wedi ymuno â thîm rygbi hoyw i godi ymwybyddiaeth am y manteision o brofi’n gynnar am heintiau rhyw sy'n cael eu trosglwyddo rhwng unigolion. Bu nyrsys o wasanaeth rhyw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cydweithio gyda charfan rygbi Llychlynwyr Abertawe i hybu’r neges am brofi’n rheolaidd, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar feddyginiaeth i’r cyhoedd.