Galw ar bobl i ‘beidio gwastraffu’ dŵr yn sgil y gwres eithafol
Galw ar bobl i ‘beidio gwastraffu’ dŵr yn sgil y gwres eithafol
Mae Dŵr Cymru yn annog pobl i beidio â bod yn wastraffus wrth i’r galw am ddŵr gynyddu yn ystod y tywydd poeth.
Daw hyn wedi i’r tymheredd yng Nghaerdydd gyrraedd 32C ddydd Mercher – diwrnod poethaf y flwyddyn hyd yn hyn.
Mae Dŵr Cymru yn dweud bod rhaid iddyn nhw ddosbarthu 150 miliwn litr ychwanegol o ddŵr wrth i’r galw gynyddu.
Er eu bod yn hyderus bod lefelau cronfeydd dŵr yn iach, mae’r corff yn galw ar bobl i beidio â gwastraffu dŵr yn ddiangen.
Dywedodd Imogen Brown, pennaeth dosbarthu Dŵr Cymru, fod ei thimau yn "hynod o brysur".
"Nid oes gennym unrhyw bryderon ynghylch adnoddau dŵr ei hun, mae ein cronfeydd dŵr mewn sefyllfa iach ar ôl cryn dipyn o law ym mis Mai.
“Ond dros y dyddiau diwethaf rydyn ni wedi gorfod dosbarthu 150 miliwn litr yn fwy felly mae'r timau wedi bod yn hynod o brysur.”
‘Pwysau eithafol’
Mae’r cyfnod o dywydd poeth wedi rhoi pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau brys hefyd, gyda’r Gwasanaeth Ambiwlans yng Nghymru yn dweud nos Lun fod Digwyddiad Parhad Busnes wedi ei ddatgan gan y gwasanaeth.
Mae cartref gofal yng Nghaernarfon yn dweud fod y tywydd yn bwysau ychwanegol hefyd.
Yng Nghartref Gofal Bryn Seiont, mae’r gweithwyr yn gwneud popeth y gallent i gadw’r preswylwyr yn ddiogel gan fod yr henoed yn fwy tebygol o ddioddef effeithiau'r tywydd poeth.
Mae Nia Davies Williams, gweithiwr gofal, yn pwysleisio’r angen i wneud pethau mewn dull gwahanol yn ystod diwrnodau twym fel hyn:
“Mae’r haul yn dambaid yng nghanol dydd fel hyn felly mae angen mynd am dro yn gynnar yn y bore, cadw allan o’r haul tanbaid yn y prynhawn a mynd am dro bach gyda’r nos pryd mae’n dechrau oeri ychydig bach.
"Hefyd, gwneud yn siwr bo ni’n gwisgo hetiau haul a hylif, ond yn bwysicach oll, gwneud yn siwr bod nhw’n yfed digon, mwy na beth byse rhywun fel arfer.”
Ond, yn ôl Nia, nid dim ond i breswylwyr y cartref gofal y mae'r tywydd yn cyflwyno anhawster:
“Mae’n anodd i’r pobl sy’n gweithio yn y cartrefi hefyd," dywedodd.
“Mae nhw’n gweithio trwy’r dydd yn y gwres ond maen nhw’n cymryd eu rôl o ddifri ac yn neud siwr bod nhw’n cadw’r preswylwyr ar flaen eu meddwl.”