Nyrsys i gydweithio â thîm rygbi hoyw i hybu iechyd rhyw
Mae nyrsys arbenigol wedi ymuno â thîm rygbi hoyw i godi ymwybyddiaeth am y manteision o brofi’n gynnar am heintiau rhyw sy'n cael eu trosglwyddo rhwng unigolion.
Bu nyrsys o wasanaeth rhyw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe yn cydweithio gyda charfan rygbi Llychlynwyr Abertawe i hybu’r neges am brofi’n rheolaidd, gan ddarparu cyngor ac arweiniad ar feddyginiaeth i’r cyhoedd.
‘Nid yw’n bwnc y mae llawer yn agored i drafod’
Dywedodd Joanne Hearne, nyrs arweiniol gyda'r tîm iechyd rhyw: “Fe wnaeth Llychlynwyr Abertawe ein gwahodd ni i un o’u gemau i gynnig sgrinio iechyd rhyw i unrhyw un a oedd eisiau profi.
“Rhoddwyd gwybodaeth ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd rhyw ym Mae Abertawe a’r gwasanaeth profi ar-lein am ddim gan Frisky Wales.
“Fe wnaethom hefyd ddarparu gwybodaeth bwysig ar sut i gael gafael ar broffylacsis ôl-amlygiad a meddyginiaeth proffylacsis cyn-amlygiad os ydynt wedi bod yn agored i risg neu leihau unrhyw risg yn y dyfodol o ddal HIV,” ychwanegodd.
Dywedodd Rhys Panniers, un o chwaraewyr y Llychlynwyr: “Nid yw iechyd rhyw yn bwnc y mae llawer o bobl yn teimlo yn agored i siarad amdano ac mae gan rai bryder ynghylch mynd i gael eu gwirio gan eu bod yn ofni'r hyn sydd i ddod.
“Rwy’n credu pe bai’r gwasanaeth hwn ar gael yn ehangach fe fyddai'n annog mwy o bobl i gael eu gwirio a deall y gwahanol heintiau ac afiechydon y gallem fod yn agored iddynt hefyd.”