Cyhoeddi cynlluniau i ‘drawsnewid’ gofal brys yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i drawsnewid y broses o ddarparu gofal brys a gofal mewn argyfwng, a hynny yn ystod cyfnod sy’n “eithriadol o heriol” i wasanaethau.
Mae’r cynlluniau yn seiliedig ar chwe nod ar gyfer y system iechyd a gofal, fydd yn cael ei gefnogi gan gyllid o £25m y flwyddyn.
Dywed y llywodraeth mai diben y cynlluniau yw helpu pobl i gael y “gofal iawn, yn y lle iawn, cyn gynted ag sy’n bosibl”.
Y gobaith yw y bydd yn helpu i leihau’r pwysau ar wasanaethau meddygon teulu, ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys.
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio, gan gynnwys buddsoddi yng ngwasanaeth 111 y GIG er mwyn cyfeirio pobl i’r gofal cywir yn gyntaf.
Yn ogystal, mae’r llywodraeth yn dweud y gallai pobl sydd ag anghenion gofal brys gael eu trin mewn mannau eraill gan y gwahanol weithwyr iechyd proffesiynol sy'n gweithio yn GIG, o dan y cynlluniau newydd.
Bydd mwy o bwyslais hefyd ar gynorthwyo pobl i fyw’n annibynnol a chefnogi llesiant, gan olygu na fydd angen gofal brys neu ofal mewn argyfwng arnyn nhw felly, meddai’r llywodraeth.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Eluned Morgan: "Mae’r galw ar wasanaethau meddygon teulu, ambiwlans ac adrannau damweiniau ac achosion brys Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru yn dal i gynyddu yn uwch na’r hyn yr oedd cyn y pandemig. Mae’r staff o dan bwysau gwirioneddol.
“Fel y nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu, rydyn ni am sicrhau bod cleifion yn gallu cael gafael ar y gofal o ansawdd uchel sydd ei angen arnyn nhw yn y lle iawn, y tro cyntaf.
“Rydyn ni wedi llunio 'chwe nod ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng' i’n Byrddau Iechyd a'u partneriaid – nodau iddyn nhw weithio tuag at eu cyflawni, a hynny mewn ffordd gyson a dibynadwy. Bydd cyflawni pob un o'r chwe nod yn sicrhau gwell canlyniadau, profiadau a gwerth i staff a chleifion.
"Byddwn yn cyhoeddi'r llawlyfr chwe nod yn ystod tymor newydd y Senedd. Bydd y llawlyfr hefyd yn disgrifio'n fanwl y safonau y dylai cleifion eu disgwyl os ydyn nhw’n dymuno cael gofal brys neu ofal mewn argyfwng, neu pan fydd angen gofal o’r fath arnyn nhw.”
Y chwe nod ar gyfer gofal brys yw:
- Cyd-drefnu, cefnogi a chynllunio ar gyfer grwpiau sy’n wynebu risg
- Cyfeirio at y lle iawn, y tro cyntaf
- Mynediad at opsiynau eraill yn hytrach na derbyn i'r ysbyty, sy’n ddiogel o safbwynt clinigol
- Ymateb brys mewn argyfwng iechyd corfforol neu iechyd meddwl
- Y gofal gorau yn yr ysbyty ar ôl derbyn i’r ysbyty
- Agwedd y cartref yn gyntaf, a lleihau'r risg o aildderbyn i’r ysbyty
‘Newid cyflym’
Gyda’r gaeaf yn prysur nesáu, a disgwyl pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn sgil Covid-19, mae’r Gweinidog Iechyd yn dweud bod angen gweithredu’r newidiadau yn gyflym a thrylwyr.
Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd: “O ystyried bod haf anodd iawn yn ein hwynebu, a bod gaeaf sydd am fod yn heriol ar y gorwel, mae'n hanfodol ein bod ni’n gwneud y newidiadau hyn yn gyflym ond ein bod ni hefyd yn drylwyr wrth weithredu.
“Rydw i’n disgwyl i bob Bwrdd Iechyd, Ymddiriedolaeth y GIG a Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol wneud cynnydd cyflym ar y chwe nod dros gyfnod yr haf, er mwyn dechrau gwneud newidiadau go iawn ar unwaith, a chan gadw mewn cof y gaeaf anodd sydd o’n blaenau ni."
Adfer Gofal Cymdeithasol
Mae’r llywodraeth hefyd wedi lansio fframwaith newydd ddydd Iau i adfer Gofal Cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r fframwaith yn nodi’r blaenoriaethau ar gyfer adferiad gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda ffocws ar flaenoriaethau adfer brys sydd angen mynd i’r afael â nhw “ar unwaith.”
Mae’r blaenoriaethau’n cynnwys canolbwyntio ar ailadeiladu llesiant, lleihau anghydraddoldeb, ehangu cyfranogiad a chreu cymdeithas gynhwysol.
Yn ogystal, mae’r fframwaith yn blaenoriaethu cefnogi pobl â Covid hir, a pharhau i sicrhau bod y risg y bydd Covid-19 yn mynd i gartrefi gofal yn cael ei leihau a bod ymweliadau yn cael eu cynnal yn ddiogel.