Newyddion S4C

Manwerthwyr 'dan bwysau' i gadw silffoedd yn llawn oherwydd y 'pingdemig'

Sky News 22/07/2021
Pixabay

Mae manwerthwyr wedi dweud eu bod "dan bwysau" i gadw silffoedd yn llawn wrth iddyn nhw wynebu prinder staff yn sgil yr hyn sy'n cael ei ddisgrifio fel 'pingdemig'. 

Yn ôl Sky News, mae Consortiwm Manwerthu Prydain (BRC) yn galw ar Lywodraeth y DU i weithredu er mwyn newid rheolau ap y Gwasanaeth Iechyd sydd yn rhybuddio pobl i aros adref am 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â rhywun sydd â Covid-19.

Mae ffigyrau diweddaraf wedi dangos fod mwy na 500,000 o bobl yng Nghymru a Lloegr wedi eu "pingio" gan yr ap yn yr wythnos hyd at 7 Gorffennaf.

Darllenwch y stori'n llawn yma

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.