Newyddion S4C

Gobeithion Cymru yn y Gemau Olympaidd

Newyddion S4C 22/07/2021

Gobeithion Cymru yn y Gemau Olympaidd

Gyda’r Gemau Olympaidd yn Tokyo ar fin dechrau, mae Cymry ymhlith yr athletwyr sydd yn gobeithio ennill medalau yn y gemau.

Er y bydd hi’n gystadleuaeth wahanol iawn eleni, gyda chefnogwyr wedi eu gwahardd oherwydd y pandemig, mae gobeithion Cymru yn parhau yn uchel.

Sophie Ingle – Pêl-droed

Yn gapten ar dîm pêl-droed Cymru ac yn amddiffynwraig sydd wedi llwyddo i gyrraedd Cynghrair y Pencampwyr, mae na obeithion am fedal efydd o leiaf i Sophie Ingle, sy'n chwarae i dîm Prydain.

Geraint Thomas – Seiclo

Bydd Geraint Thomas yn ôl wedi ymgyrch siomedig yn y Tour de France. Mae’n cystadlu yn y ras ar y ffordd ac yn y ras yn erbyn y cloc. Mae ganddo’r profiad yn barod, wedi iddo ennill dwy fedal aur mewn gemau blaenorol.

Jade Jones – Taekwondo

Mae gobeithion mawr y bydd Jade Jones yn sicrhau medal aur arall ym myd taekwondo. Does yna ddim un menyw o Brydain wedi ennill tair medal aur yn olynol. Mae’r ferch o’r Fflint wedi hen arfer â’r pwysau.

Lauren Price - Bocsio

Un arall sydd â gobeithion mawr o sicrhau’r aur yw Lauren Price. Ar hyn o bryd, hi yw rhif un yn netholiad pwysau canolig y byd. Pencampwraig y gemau Ewropeaidd, yn ogystal â phencampwraig y byd, dim ond medal aur Olympaidd sydd ar goll.

Bydd y gemau yn dechrau’n swyddogol ddydd Gwener, 23 Gorffennaf, gan ddod i ben ar 8 Awst.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.