Newyddion S4C

Cipolwg ar benawdau’r bore

21/07/2021
Y Penawdau [NS4C]
NS4C

Bore da gan dîm Newyddion S4C.

Dyma ein prif straeon ar fore dydd Mercher, 21 Gorffennaf.

Y DU i roi £54m i Ffrainc i geisio arafu 'mudo anghyfreithlon'

Bydd Llywodraeth San Steffan yn buddsoddi £54m er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r nifer o fewnfudwyr sy’n dod mewn i'r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon. Daw hyn ar ôl i’r Swyddfa Gartref gofnodi’r nifer uchaf o fudwyr yn croesi'r Sianel mewn un dydd, gyda 430 o bobl yn glanio ar dir Prydain ddydd Llun. Mae’r arian yn rhan o gytundeb newydd rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc, yn ôl The Independent. 

Amgueddfa Lloyd George yn y fantol oherwydd diffyg arian

Mae Amgueddfa i gofio bywyd cyn-brif weinidog y DU, David Lloyd George, yng Ngwynedd, mewn perygl o gau oni bai fod y sefydliad yn dod o hyd i fuddsoddiad newydd. Cafodd yr Amgueddfa ym mhentref Llanystumdwy, ynghyd â chanolfan Storiel ym Mangor, eu rhoi ar gofrestr risg corfforaethol Cyngor Gwynedd. Yn ôl Nation.Cymru, mae’r ddau safle wedi cael eu cydnabod fel rhai sydd angen cynllun busnes o’r newydd ar ôl i gyllid ariannol allanol ddod i ben.

Beth oedd gwaddol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain?

Yn ystod gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 cynhaliwyd gemau pêl-droed yng Nghaerdydd. Bryd hynny dywedodd y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, fod yna "gyfle ardderchog i Gymru elwa." Ond bron i ddeg mlynedd yn ddiweddarach mae yna farn ranedig ar hynny o hyd.

Heddlu'r Gogledd yn rhybuddio modurwyr i beidio yfed a gyrru

Yn dilyn nifer o arestiadau yfed a gyrru dros y penwythnos mae Heddlu’r Gogledd yn galw ar fodurwyr i gymryd cyfrifoldeb a chadw’n ddiogel wrth fanteisio ar y tywydd braf. Daw’r alwad wedi i sawl person cael eu harestio am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn Sir y Fflint, Ynys Môn a Gwynedd dros y penwythnos. Cafodd un fenyw 39 oed oedd deirgwaith dros y terfyn yfed a gyrru ei stopio yn Llanelwy toc wedi 18:00 nos Wener ar ôl iddi gael ei gweld yn yfed mewn bar gerllaw. 

12 wedi marw wedi llifogydd yn China

Mae 12 o bobl wedi marw yn system drenau tanddaearol Zhengzhou yn China ar ôl i’r wlad weld gwerth blwyddyn o law yn disgyn mewn tridiau. Bu’n rhaid i filoedd o bobl adael eu cartrefi yn nhalaith Henan o ganlyniad i’r glaw trwm, gyda phryderon y gallai argae ddymchwel yno. Mae Al Jazeera yn adrodd fod y gwasanaethau brys a’r fyddin yn parhau i ymateb i’r argyfwng, gan geisio dod o hyd i unigolion sydd ar goll. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.