Newyddion S4C

Heddlu’r Gogledd yn rhybuddio modurwyr i beidio yfed a gyrru

21/07/2021
yr A55

Yn dilyn nifer o arestiadau yfed a gyrru dros y penwythnos mae Heddlu’r Gogledd yn galw ar fodurwyr i gymryd cyfrifoldeb a chadw’n ddiogel wrth fanteisio ar y tywydd braf. 

Daw’r alwad wedi i sawl person cael eu harestio am yrru dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau yn Sir y Fflint, Ynys Môn a Gwynedd dros y penwythnos. 

Cafodd un fenyw 39 oed oedd deirgwaith dros y terfyn yfed a gyrru ei stopio yn Llanelwy toc wedi 18:00 nos Wener ar ôl iddi gael ei gweld yn yfed mewn bar gerllaw. 

Wedi iddi hi fethu prawf anadlu wrth ochr y ffordd fe roddodd darlleniad pellach o 124mg yn ddalfa’r heddlu, gyda’r cyfyngiad cyfreithiol yn 35mg am bob 100ml o anadl. 

Mae disgwyl iddi ymddangos yn Llys Ynadon Llandudno dydd Llun 2 Awst ar gyhuddiad o yfed a gyrru. 

Cafodd dyn 40 oed o Ynys Môn hefyd ei arestio ar ôl profi’n bositif am gocên yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd yng Nghapel Curig.

Roedd y dyn yn cludo dynes a thri o blant ifanc yn y car, ond cafodd neb eu hanafu.

Cafodd ei ryddhau o dan ymchwiliad gan ddisgwyl canlyniadau profion pellach. 

‘Peryglus ac annerbyniol’

Dywedodd y Rhingyll Leigh Evans o’r Uned Plismona Ffyrdd: "Mae dewis gyrru o dan ddylanwad alcohol yn beryglus ac annerbyniol. Nid wyf yn meddwl fod pobl yn amgyffred graddau llawn y perygl mae yfed a gyrru yn ei achosi.

"Gall cyffuriau effeithio eich meddwl a'ch corff mewn amrywiol ffyrdd hefyd, sy'n golygu nad ydych yn gallu gyrru'n ddiogel. Nid yn unig hynny, gall yr effeithiau barhau am oriau neu hyd yn oed ddyddiau. 

"Rydym yn deall fod pobl eisiau mwynhau eu hunain rŵan bod y cyfyngiadau wedi llacio a'r tafarndai a'r bwytai wedi ailagor,” ychwanegodd.

“Mae cadw'n ddiogel ar y ffordd yn berthnasol i bob un ohonom, ac rydym ond yn gofyn i holl fodurwyr fwynhau'r rhanbarth yn ddiogel a glynu at y gyfraith."

Llun: David Dixon

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.