Nifer uchaf o fudwyr wedi croesi’r Sianel mewn diwrnod
20/07/2021
Mae’r Deyrnas Unedig wedi gweld y nifer uchaf o fudwyr yn croesi’r Sianel mewn diwrnod, wedi i 430 groesi ddydd Llun.
Dywed Sky News fod y ffigwr yma’n uwch na’r 416 a welwyd yn ystod un dydd ym mis Medi 2020.
Roedd 50 o ddynion, menywod a phlant ymysg y rhai a groesodd ddydd Llun, wrth iddyn nhw gael eu gweld yn cerdded ar hyd y lan ger Dungeness yng Nghaint.
Y gred yw eu bod wedi gadael gogledd Ffrainc neu Wlad Belg ar ddingi yn gynharach yn y dydd.
Darllenwch y stori’n llawn yma.