12 wedi marw wedi llifogydd yn China
12 wedi marw wedi llifogydd yn China
Mae 12 o bobl wedi marw yn system drenau tanddaearol Zhengzhou yn China ar ôl i’r wlad weld gwerth blwyddyn o law yn disgyn mewn tridiau.
Bu’n rhaid i filoedd o bobl adael eu cartrefi yn nhalaith Henan o ganlyniad i’r glaw trwm, gyda phryderon y gallai argae ddymchwel yno.
Mewn lluniau a gafodd eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol, cafodd teithwyr ar un o drenau Zhengzhou eu gweld hyd at eu gyddfau mewn dŵr wrth iddynt geisio glynu i’r canllaw.
Mae Al Jazeera yn adrodd fod y gwasanaethau brys a’r fyddin yn parhau i ymateb i’r argyfwng, gan geisio dod o hyd i unigolion sydd ar goll.
Dyma’r lefelau uchaf o lawr i’r ardal ei weld erioed, yn ôl awdurdodau tywydd y dalaith, gan fynd tu hwnt i’r hyn maent fel arfer yn ei weld yn ystod y tymor glawiog.
Darllenwch y stori’n llawn yma.