Beth oedd gwaddol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain?
Beth oedd gwaddol Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain?
Yn ystod gemau Olympaidd a Pharalympaidd Llundain 2012 cynhaliwyd gemau pêl-droed yng Nghaerdydd.
Bryd hynny dywedodd y cyn-Brif Weinidog, Carwyn Jones, fod yna "gyfle ardderchog i Gymru elwa."
Ond bron i ddeg mlynedd yn ddiweddarach mae yna farn ranedig ar hynny o hyd.
"Odd e'n edrych yn addawol dros ben nôl saith, wyth mlynedd yn ôl," meddai Dr Hedydd Davies, Llywydd Clwb Athletau Harriers Caerfyrddin.
"Odd lot o arian i ddod i ysgolion, i glybiau, i athletau, a phopeth arall, ond yn anffodus dyw hwnna ddim wedi digwydd yng Nghymru.
"Yn anffodus dyw pethau ddim wedi gweithio mas yn iawn."
'Newidiodd popeth'
Ond yn ôl Aled Sion Davies, a enillodd fedal aur yn y gemau yn 2012, fe roddodd y gemau sylw i ehangach i’r gemau paralympaidd.
“Pan o'n i'n dechrau, fi oedd yr unig un efo anabledd yn cystadlu a neud beth fi'n neud nawr. Ond nawr ma' 'na tua saith, wyth fersiwn o fi'n dod trwy.
”Odd y stadiwm yn llawn, odd pawb yn sgrechian amdano fi. Sut ma' shwt gymaint o pobl eisiau gweld chwaraeon anabledd?
”Nath Llundain daflu chwaraeon anabledd tua 20 mlynedd ymlaen, newidiodd popeth.”