39 wedi marw mewn gwrthdrawiad trên yn Sbaen
Mae o leiaf 39 o bobl wedi marw mewn gwrthdrawiad trên yn ne Sbaen ac mae nifer wedi eu hanafu.
Yn ôl yr awdurdodau mae disgwyl i nifer y meirw gynyddu.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad ger dinas Córdoba a dyma'r ddamwain rheilffordd waethaf yn Sbaen mewn mwy na degawd.
Roedd un trên yn teithio o Malaga i Madrid cyn y ddamwain. Fe aeth y cerbydau oddi ar y cledrau a chroesi'r traciau gyferbyn gan daro trên arall.
Roedd 400 o deithwyr a gweithwyr ar y ddau drên meddai'r cwmni rhwydwaith trenau.
Mae o leiaf 24 o bobl wedi eu hanafu yn ddifrifol meddai'r gwasanaethau brys yn Andalusia. Yn eu plith mae pedwar o blant.
"Rhyfedd iawn" yw disgrifiad Gweinidog Trafnidiaeth Sbaen, Óscar Puente o'r hyn sydd wedi digwydd.
Mae'r holl arbenigwyr rheilffyrdd sydd wedi ymgynghori gyda'r llywodraeth "wedi eu drysu gan y ddamwain" meddai Puente wrth newyddiadurwyr yn Madrid.
Mae ymchwiliad wedi dechrau i'r hyn ddigwyddodd. Y disgwyl yw na fydd atebion ynglŷn â'r hyn ddigwyddodd am o leiaf mis.
Y gred yw bod y gwrthdrawiad wedi digwydd tua 10 munud ar ôl i'r trên adael Malaga am 18.40 amser lleol.
Fe wnaeth grym y ddamwain wthio'r cerbydau oedd ar yr ail drên i arglawdd ('embankment') meddai Mr Puente.
Dywedodd hefyd bod nifer y rhai sydd wedi eu lladd neu eu hanafu yn deithwyr yn y cerbydau blaen o'r ail drên.
Yn ôl y gweithwyr achub mae'n anodd i dynnu pobl allan o'r cerbydau o achos llanastr y gwrthdrawiad.
Cafodd y gwasanaethau trenau rhwng Madrid a Andalusia eu gohirio wedi'r digwyddiad a does dim disgwyl i drenau deithio'r ffordd yno am weddill y dydd.
Llun: Reuters