Gall Newyddion S4C ddatgelu fod y pedoffeil Neil Foden wedi cadw’r hawl i dderbyn ei bensiwn prifathro ers cael ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn pedair merch.
Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ym mis Gorffennaf 2024, ar ôl ei gael yn euog o 19 o gyhuddiadau yn ei erbyn.
Fe wnaeth ymddiswyddo o'i waith fel pennaeth Ysgol Friars ym Mangor wythnos ar ôl i'w achos llys ddechrau.
Roedd hefyd yn arfer bod yn bennaeth strategol dros dro yn Ysgol Dyffryn Nantlle ym Mhenygroes.
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, cyn-gyflogwr Neil Foden, wedi disgrifio'r ffaith ei fod yn dal i gael hawlio ei bensiwn prifathro fel sefyllfa "warthus".
Image
Mae Arweinydd Cyngor Gwynedd Nia Jeffreys wedi dweud wrth Newyddion S4C y dylai Neil Foden dalu "pob ceiniog" o'i bensiwn yn ôl.
Mae Cyngor Gwynedd yn dweud mai Adran Addysg Llywodraeth Prydain sydd yn gyfrifol am weithredu cynllun pensiynau athrawon.
Dywedodd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd, wrth Newyddion S4C: “Dwi’n siŵr y byddai pobol ar draws y sir yn cytuno gyda mi ei bod yn warthus fod rhywun sydd wedi ei gael yn euog o droseddau difrifol yn erbyn plant ac sydd wedi ei ddedfrydu i garchar yn parhau i dderbyn pensiwn prifathro.
“Gan fod pensiwn athrawon yn fater i Lywodraeth San Steffan, rwyf wedi codi fy mhryderon am hyn gyda’r Aelod Seneddol Liz Saville-Roberts a rwyf yn hynod ddiolchgar am ei gwaith a’i dygnwch wrth dynnu sylw’r Llywodraeth i’r mater yma.
"Mawr obeithiaf y bydd yn llwyddiannus yn stopio’r pedoffeil erchyll yma rhag derbyn ei bensiwn yn syth ac y bydd yn gorfod talu pob ceiniog mae o wedi ei dderbyn yn ôl.”
Ychwanegodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Nid oes gan Gyngor Gwynedd unrhyw beth i’w wneud gyda phensiwn Neil Foden.
"Mae pensiwn athrawon yn dod o dan gyfrifoldeb Llywodraeth San Steffan ac rydym wedi rhoi gwybod iddynt am y troseddau difrifol y cafwyd ef yn euog ohonynt a’i ddedfryd i garchar.”
Image
Pencadlys Adran Addysg Llywodraeth Prydain (Llun: Nick Ansell/PA Archive/PA Images).
Prin iawn yw’r achosion pan fod athrawon yn colli’r hawl i’w pensiynau ar ôl troseddu. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn 2005.
Mae Newyddion S4C yn deall fod Adran Addysg Llywodraeth Prydain yn ystyried atal 22 o athrawon sydd wedi troseddu rhag derbyn eu pensiynau ar hyn o bryd.
Nid oedd yr adran addysg yn fodlon dweud os oedd achos Neil Foden yn un ohonynt, gan nad ydynt yn trafod achosion unigol.
Dywedodd llefarydd ar eu rhan: “Os bu camymddygiad gan athro sy’n arwain at euogfarn, y llysoedd sydd i benderfynu ar y lefel briodol o gosb.
“Ystyrir fforffedu ('forfeiture') holl fuddion pensiwn athro neu ran ohonynt fesul achos ar ôl edrych ar yr holl dystiolaeth."
Camau disgyblu
Fe wnaeth achos Neil Foden arwain at gynnal Adolygiad Ymarfer Plant estynedig i amgylchiadau ei droseddu, gydag adroddiad damniol Jan Pickles OBE yn cael ei gyhoeddi fis Tachwedd y llynedd.
Daeth yr adroddiad hwnnw, 'Cyfiawnder trwy ein dewrder', i’r casgliad bod dros 50 o gyfleoedd wedi eu colli gan nifer o asiantaethau rhwng 2017 a 2023 i atal Neil Foden rhag troseddu.
Gofynnodd Newyddion S4C i Gyngor Gwynedd os oedd unrhyw gamau disgybl wedi eu cymryd yn erbyn unrhyw aelod o staff y cyngor ers cyhoeddi’r adroddiad ym mis Tachwedd.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Mewn cyfarfod diweddar o Gabinet Cyngor Gwynedd, rhoddodd Brif Weithredwr y Cyngor sicrwydd i’r Aelodau fod pob cam angenrheidiol ac addas yn cael ei gymryd i fynd i’r afael ag unrhyw achos o gamymddwyn neu fethiant i gyrraedd y gofynion statudol neu broffesiynol.
“Mae’r holl gyfleoedd a fethwyd i atal troseddu ffiaidd Neil Foden – gan gynnwys yr holl benderfyniadau, trefniadau a gweithredu dros y blynyddoedd – yn cael eu harchwilio yn gyflawn a thrwyadl ar hyn o bryd gyda chefnogaeth arbenigwyr allanol.”