Newyddion S4C

Neil Foden wedi ei gyflogi fel pennaeth yn ystod ei achos llys

Neil Foden.jpeg

Mae ymchwiliad gan Newyddion S4C wedi darganfod bod y pedoffeil Neil Foden wedi ei gyflogi fel pennaeth tra'r oedd yr achos llys yn ei erbyn yn mynd yn ei flaen.

Roedd yn dal yn ei swydd ac yn gyflogedig gan Gyngor Gwynedd hyd at ddiwrnod olaf mis Ebrill eleni, pan ymddiswyddodd o'i waith.

Roedd ei achos yn Llys y Goron yr Wyddgrug wedi dechrau ar 22 Ebrill.

Cafodd Foden ei garcharu am 17 o flynyddoedd ddechrau mis Gorffennaf ar ôl ei gael yn euog o gamdrin pedair merch dros gyfnod o bedair blynedd.

Yn dilyn ei achos llys ar 15 Mai, fe wnaeth Newyddion S4C anfon cais o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn gofyn am wybodaeth oedd gan Gyngor Gwynedd am Mr Foden, ei gyflogaeth a chwynion amdano.

Mewn ymateb i'r cais hwnnw ddydd Llun, dywedodd Cyngor Gwynedd fod y pennaeth wedi ymddiswyddo o'i swydd fel pennaeth ar Ysgol Friars ym Mangor wythnos ar ôl i'r achos llys ddechrau.

Mae Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru yn cynnal Adolygiad Ymarfer Plant annibynnol i achos Neil Foden ar hyn o bryd.

Mae disgwyl i’r adolygiad dan gadeiryddiaeth Jan Pickles gael ei gynnal am dros chwe mis cyn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Fe fydd yn rhaid i Neil Foden dreulio o leiaf dwy rhan o dair o'i ddedfryd o dan glo.

Wrth ei ddedfrydu ym mis Gorffennaf, fe ddisgrifiodd y Barnwr Rhys Rowlands Neil Foden fel cymeriad "gormesol a bombastig" oedd gyda "chyfrinach warthus - obsesiwn rhywiol gyda merched ifanc bregus yn eu harddegau."

Roedd Foden yn bennaeth ar Ysgol Friars, Bangor, ac yn Bennaeth Strategol Ysgol Dyffryn Nantlle, Penygroes cyn iddo gael ei arestio ym mis Medi 2023. 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.