Keir Starmer i siarad yn Downing Street yn dilyn bygythiadau economaidd Donald Trump

trump starmer.png

Bydd Syr Keir Starmer yn siarad yn Downing Street yn ddiweddarach yn dilyn bygythiad Donald Trump i gynyddu tariffau economaidd ar wledydd sy'n gwrthwynebu ei fwriad i’r Unol Daleithiau brynu’r Ynys Las.

Mae’r Prif Weinidog wedi dweud wrth arlywydd yr Unol Daleithiau ei fod yn “anghywir” i gynyddu tariffau ar y DU a gwledydd Ewropeaidd eraill sy’n gwrthwynebu ei ymdrechion i hawlio'r Ynys Las, tiriogaeth sydd yn nwylo Denmarc.

Mae disgwyl i Syr Keir nodi dull y DU o weithio gyda gwledydd eraill yn Ewrop sydd yn gwrthwynebu ymdrechion Donald Trump, a sut y bydd y wlad yn cael ei “harwain gan ein gwerthoedd”, yn ôl ffynhonnell yn y Llywodraeth.

Mae disgwyl iddo hefyd siarad am ei benderfyniad i amddiffyn diogelwch, safonau byw a dyfodol pobl Prydain.

Nwyddau

Daw hyn ar ôl i arlywydd yr Unol Daleithiau ddweud y byddai’n codi tariff o 10% ar y DU “ar unrhyw nwyddau” sy'n cael eu hanfon i’r Unol Daleithiau o 1 Chwefror, gan gynyddu i 25% o 1 Mehefin, nes y bydd cytundeb gyda Washington i'w alluogi i brynu’r Ynys Las gan Ddenmarc.

Dywedodd Mr Trump y byddai’r un peth yn berthnasol i Ddenmarc, Norwy, Sweden, Ffrainc, yr Almaen, yr Iseldiroedd a’r Ffindir.

Cynhaliodd Syr Keir gyfres o alwadau brynhawn Sul, gan siarad â Mr Trump yn ogystal â phrif weinidog Denmarc Mette Frederiksen, llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen a phrif swyddog NATO Mark Rutte.

Ym mhob un ohonynt, ailadroddodd ei safbwynt ar yr Ynys Las – mai Denmarc a’r Ynys Las sydd i benderfynu ar ei dyfodol – a bod diogelwch yno yn flaenoriaeth i bob aelod o NATO er mwyn amddiffyn buddiannau Ewrop ag America. 

“Dywedodd hefyd fod gosod tariffau ar gynghreiriaid am ddilyn diogelwch cyfunol NATO yn anghywir,” meddai llefarydd ar ran Downing Street.

Yn gynnar ddydd Llun, dywedodd Mr Trump fod Denmarc wedi methu â gwrando ar rybuddion i amddiffyn yr Ynys Las rhag bygythiadau Rwsia.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.