Rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru

Rhybudd tywydd 20/01

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn am wynt i rannau o Gymru ddydd Mawrth.

Fe fydd y rhybudd mewn grym rhwng 04:00 a 16:00. 

Mae'r Swyddfa Dywydd wedi rhybuddio fod oedi yn bosib ar y ffyrdd, rheilffyrdd, mewn meysydd awyr ac ar fferis. 

Fe allai rhai gwasanaethau bws a thrên gael eu heffeithio hefyd, gyda theithiau yn cymryd mwy o amser. 

Mae posibilrwydd y gallai rhai cartrefi a busnesau brofi colled tymor byr o bŵer hefyd.

Fe fydd y rhybudd yn effeithio ar y siroedd canlynol:

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
  • Powys
  • Sir Gâr
  • Ceredigion
  • Castell-nedd Port Talbot
  • Abertawe
  • Sir Benfro
  • Bro Morgannwg
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Rhondda Cynon Taf

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.