Dydd Llun Llwm: Gwreiddiau Cymreig 'Blue Monday'
“Fe gafodd y syniad ei eni yng Nghymru – yn fwy penodol, yn ardal Aberhonddu yn y de.”
Mae Dydd Llun Llwm, y trydydd dydd Llun yn mis Ionawr sy'n cael ei ddisgrifio fel 'Blue Monday' yn cael ei ystyried gan lawer fel un o ddyddiau mwyaf digalon y flwyddyn.
Mae cysylltiad Cymreig cryf gyda'r diwrnod, gan mai seicolegydd o Brifysgol Caerdydd oedd yn gyfrifol am y syniad 20 mlynedd yn ôl.
Yn 2005 derbyniodd Cliff Arnall gais gan gwmni Sky Travel yn gofyn iddo beth oedd yn ei feddwl oedd diwrnod mwyaf digalon y flwyddyn.
"Nes i feddwl, bois bach, mae hwnna yn gwestiwn da,” meddai wrth Newyddion S4C.
"Felly, fel rhywun sy'n chwilfrydig o hyd am seicoleg, wnes i ddewis y diwrnod sydd bellach yn cael ei adnabod fel 'Blue Monday'.
"Roedd yn cyd-fynd â'r ffactorau yr oedd pobl yn eu dweud wrtha i oedd yn ddigalon ar gyrsiau yr oeddwn i yn eu cynnal yn bennaf yng Nghaerdydd, ac hefyd ym Merthyr ac Abertawe.
“Roedden nhw’n dweud eu bod nhw’n casáu bod yn ôl yn y gwaith neu addysg, mae'n oer, mae'n ddiflas - felly roedd llawer ohono yn ategu yr hyn yr oedd pobl yn ei ddweud wrtha i."
Fe benderfynodd gynnal arolwg, a mireinio ei ymchwil nes iddo adnabod pum prif ffactor oedd yn cyfrannu at ddigalondid yr rheini a holwyd: y tywydd, dyled, amser ers y Nadolig, addunedau blwyddyn newydd aflwyddiannus, a diffyg egni i wneud dim.
Beirniadaeth
Erbyn hyn mae Mr Arnall wedi derbyn llawer o feirniadaeth am ei syniad, gyda nifer yn dweud ei fod yn ffug-wyddoniaeth.
Un corff sydd wedi cwestiynu'r gwaith ymchwil yw elusen iechyd meddwl Mind.
Dywedodd Rosie Weatherley, Rheolwr Cynnwys Gwybodaeth gyda'r elusen wrth Newyddion S4C: "Nid oes unrhyw dystiolaeth gredadwy i awgrymu bod un diwrnod penodol yn cynyddu'r risg o brofi iselder.
"Mae 'Dydd Llun Llwm' yn anwyddonol, a'n pryder yw ei fod yn bychanu iselder - sydd mewn gwirionedd yn gyflwr a allai fod yn fygythiad i fywyd - yn hytrach na' dileu'r stigma.
"Gall misoedd y gaeaf beri i ni deimlo'n isel, o bosibl oherwydd dyddiau byrrach, newidiadau yn y tywydd, neu bryderon ariannol. Gallai'r pethau hyn waethygu iselder i rai pobl ac nid i eraill, a bydd pobl ag iselder yn cael eu heffeithio am fwy nag un diwrnod."
Ychwanegodd: "Os ydych chi'n cael trafferth ym mis Ionawr, mae yna lawer o bethau y gallwch chi roi cynnig arnynt i wella'ch lles meddyliol.
"Gall mynd allan yn ystod golau dydd helpu'n aml, fel y gall gwneud rhywfaint o ymarfer corff. Gall canolbwyntio ar hobi fel coginio, crefftio neu ddringo hefyd roi seibiant pleserus i ni o bwysau dyddiol.
"Y peth pwysig yw dod o hyd i rywbeth sy'n gweithio i chi, oherwydd ein bod ni i gyd yn wahanol.
"Os ydych chi wedi sylwi ar newidiadau i'ch teimladau, meddyliau ac ymddygiad sy'n para'n hirach na phythefnos neu'n dal i ddychwelyd, siaradwch â'ch meddyg teulu.
"Dylai eich meddyg teulu allu dweud wrthych chi pa gymorth a chefnogaeth sydd ar gael."
'Balch'
Ond er y feirniadaeth, dywedodd Mr Arnall ei fod yn parhau i fod yn “falch iawn” o'i waith ymchwil.
“Roeddwn i'n gwybod eu bod nhw'n mynd i'w ddefnyddio i werthu gwyliau - dyna'r math o ochr fasnachol iddo,” meddai.
“Ond dewisais i ei wneud er mwyn helpu pobl, dyna beth rydw i yma i'w wneud - a dyna oedd y bwriad craidd ar gyfer creu 'Blue Monday.'
"Mae'n lleihau'r stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl a phroblemau iechyd meddwl, trwy annog pobl i siarad amdano."
Mae’n cyfaddef nad oedd byth yn ddisgwyl i'w syniad ddenu cymaint o sylw.
“Wnes i feddwl y byddai wedi gwerthu ychydig o deithiau awyr ac wedi cyrraedd ychydig o bobl, ond nid fel y mae heddiw,” meddai.
Un feirniadaeth yw fod Dydd Llun Llwm wedi tyfu yn ddigwyddiad masnachol gyda nifer o gwmnïau yn ei ddefnyddio fel esgus i werthu nwyddau.
Mae elusen y Samariaid wedi awgrymu troi 'Blue Monday' yn 'Brew Monday' – gan annog sgwrs gyda theulu a ffrindiau dros baned o de.
Ychwanegodd Cliff Arnall: "Mae amseroedd wedi newid - ac rydw i wedi clywed llawer o straeon am bobl yn ei ddefnyddio er lles, sy'n gwneud i mi deimlo'n hapus."
Os ydy'r erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae cymorth ar gael ar wefan S4C Cymorth.
