Mesurau newydd i ddiogelu gweithwyr iechyd yn dod i rym

Ward Ysbyty - Canser y Fron (PA)

Mae mesurau newydd i ddiogelu staff y gwasanaeth iechyd rhag cael eu haflonyddu wedi dod i rym yng Nghymru ddydd Llun. 

Mae’r newidiadau yn golygu y bydd “peri niwsans neu aflonyddwch” ar safleoedd y GIG bellach yn drosedd. 

Fe fydd yr heddlu a swyddogion y gwasanaeth iechyd yn cael symud pobl sydd yn creu aflonyddwch o ganlyniad i'r rheolau newydd. 

Mae ymddygiad sy'n peri niwsans neu aflonyddwch yn cynnwys camdriniaeth eiriol, rhwystro coridorau yn gorfforol, atal staff rhag cyflawni eu dyletswyddau a chreu gormod o sŵn mewn ardaloedd aros, ar wardiau ac mewn ardaloedd eraill. 

Daw wedi i Arolwg Staff GIG Cymru Gyfan ddiweddar dangos gostyngiad sydyn yn nifer y staff sy'n teimlo'n ddiogel rhag camdriniaeth gan gleifion a'r cyhoedd, gan ostwng o 83.6% i 74.8%.

Roedd sefydliad Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais wedi helpu i lunio’r mesurau newydd yn y gobaith o “rymuso staff” a’u cefnogi mewn sefyllfaoedd peryglus. 

Dywedodd Cadeirydd y Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais, Jonathan Webb: "Mae hon yn garreg filltir arall o ran y cydweithio rhwng gwasanaethau iechyd a'r sector cyfiawnder troseddol wrth ymateb i achosion o ymddygiad treisgar gan nifer bach o ddefnyddwyr gwasanaethau.

"Mae'n grymuso staff y Gwasanaeth Iechyd i gymryd camau priodol pan fyddan nhw’n wynebu ymddygiad annerbyniol ac yn rhoi datrysiad effeithiol i ddelio â digwyddiadau."

'Neges glir'

Fe allai'r pwerau newydd effeithio pobl sy'n peri niwsans neu aflonyddwch, pobl sy'n gwrthod gadael pan ofynnir iddynt gan staff neu'r heddlu a phobl nad ydynt ar y safle i gael gofal meddygol eu hunain.

Nid yw'r pwerau yn gymwys i gleifion sy'n ceisio cyngor meddygol, triniaeth neu ofal drostynt eu hunain.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: "Mae'r cam gweithredu sy'n cael ei roi ar waith heddiw yn anfon neges glir a chadarnhaol: yng Nghymru, rydyn ni'n sefyll gyda gweithlu'r Gwasanaeth Iechyd.

"Mae hyn yn ymwneud â darparu diogelwch, urddas a chymorth i'r gweithlu. Mae'n sicrhau y gall staff wneud eu gwaith heb ofn ac y gall cleifion gael triniaeth mewn amgylcheddau tawel a diogel.”

Daw’r mesurau fel rhan o Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Mewnfudo 2008. 

Fe fydd hefyd yn rhoi'r pŵer i'r heddlu symud person dan amheuaeth o gyflawni'r drosedd o'r safle, gan ddefnyddio grym rhesymol os oes angen.

Cafodd y mesurau eu datblygu mewn partneriaeth â'r Grŵp Cydweithredol dros Atal Trais, yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, sefydliadau GIG Cymru ac undebau llafur.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.