Newyddion S4C

Amgueddfa Lloyd George yn y fantol oherwydd diffyg arian

Nation.Cymru 21/07/2021
Amgueddfa Lloyd George

Mae Amgueddfa i gofio bywyd cyn-brif weinidog y DU, David Lloyd George, yng Ngwynedd, mewn perygl o gau oni bai fod y sefydliad yn dod o hyd i fuddsoddiad newydd.

Cafodd yr Amgueddfa ym mhentref Llanystumdwy, ynghyd â chanolfan Storiel ym Mangor, eu rhoi ar gofrestr risg corfforaethol Cyngor Gwynedd.

Yn ôl Nation.Cymru, mae’r ddau safle wedi cael eu cydnabod fel rhai sydd angen cynllun busnes o’r newydd ar ôl i gyllid ariannol allanol ddod i ben.

Ar ôl agor yn wreiddiol yn 1947, mae’r amgueddfa yn Llanystumdwy yn rhoi cipolwg ar fywyd yn ystod cyfnod plentyndod David Lloyd George, yn ogystal â chadw dogfennau hanesyddol o’i gyfnod fel Prif Weinidog.

Mae wedi derbyn grant blynyddol o £27,000 ers 2017 gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ar ôl i Gyngor Gwynedd ddatgan nad oedden nhw’n gallu fforddio cadw’r atyniad yn agored.

Ar ôl i’r cytundeb hwnnw ddod i ben, cafodd yr amgueddfa gyllid ‘un-tro’ ar gyfer 2020/21 gan Gyngor Gwynedd. 

Mae’r adroddiad, sydd wedi’i gymeradwyo gan aelodau, yn nodi: “Bydd gwaith asesu pellach yn cael ei wneud i edrych ar yr opsiynau ar gyfer y dyfodol ac i gytuno ar drefniadau llywodraethu’r cyngor fel ymddiriedolwr yn y cyfamser.

“Mae Covid wedi effeithio ar y gwaith gan arwain at oedi yn yr amserlen y cytunwyd arni rhwng y cyngor a phartneriaid. 

“Mae angen i’r Ymddiriedolaeth ystyried ei hopsiynau a datblygu cynllun busnes newydd i dargedu cyllid yn y dyfodol i gefnogi’r amgueddfa.”

Image
A
Amgueddfa Storiel, Bangor (Llun: Hefin Owen) 

Ym Mangor, mae pryderon hefyd am ddyfodol amgueddfa a galeri Storiel, ar ôl i gyllid gan y Gronfa Dreftadaeth y Loteri ddod i ben. 

Cafodd y safle ei agor yn 2016 yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol gwerth £2.6m, wedi buddsoddiadau gan Gyngor Gwynedd a Phrifysgol Bangor.

Mae’r adroddiad yn nodi fod Storiel wedi “methu a chyrraedd ei thargedau incwm”. 

Bydd y cynllun busnes yn cael ei adolygu yn sgil effaith Covid-19 ar y safle. 

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd eu bod nhw’n “datblygu achos busnes ar gyfer y ddwy amgueddfa”.

Ychwanegodd: “Rydyn ni’n rhagweld y bydd y dogfennau hyn yn helpu i fynd i’r afael â’r sefyllfa bresennol ac yn darparu llwybr ar gyfer cynaliadwyedd y cyfleusterau pwysig yma yn y dyfodol.”

Darllenwch y stori'n llawn yma

Prif Lun: Elliot Brown

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.