Y DU i roi £54m i Ffrainc i geisio arafu 'mudo anghyfreithlon'
Bydd Llywodraeth San Steffan yn buddsoddi £54m er mwyn ceisio mynd i’r afael â’r nifer o fewnfudwyr sy’n dod mewn i'r Deyrnas Unedig yn anghyfreithlon.
Daw hyn ar ôl i’r Swyddfa Gartref gofnodi’r nifer uchaf o fudwyr yn croesi'r Sianel mewn un dydd, gyda 430 o bobl yn glanio ar dir Prydain ddydd Llun.
Mae’r arian yn rhan o gytundeb newydd rhwng y Deyrnas Unedig a Ffrainc, yn ôl The Independent.
Mae disgwyl i nifer yr heddlu sy’n plismona traethau Ffrainc ddyblu, a bydd rhagor o dechnoleg gwylio ac arsylwi yn cael ei gyflwyno ar hyd y ffîn.
Cafodd y pecyn ei ddisgrifio fel “geiriau gwag” gan y blaid Lafur.
“Cyn belled yn ôl ag Awst 2020, mae gweinidogion wedi addo y bydd cynllun gwaith newydd ar y cyd rhwng Ffrainc yn ei le ‘yn y dyddiau nesaf’. Ac eto, bron i flwyddyn yn ddiweddarach, maen nhw’n dal i wneud addewidion gwag, yn siomi dioddefwyr, a chaniatáu i droseddwyr barhau â’u masnach ddieflig,” meddai Nick Thomas-Symonds AS.
Darllenwch y stori’n llawn yma.
Llun: UK Prime Minister