Cipolwg ar benawdau'r bore
Bore da gan dîm Newyddion S4C.
Dyma ein prif straeon ar fore dydd Iau, 15 Gorffennaf.
Dim ond 'un sgwrs ffôn' gyda Boris Johnson ers mis Mai
Dim ond un sgwrs ffôn mae Prif Weinidog Cymru wedi ei gael gyda Phrif Weinidog y DU ers etholiad y Senedd ym mis Mai. Daw hyn yn dilyn sylwadau Mark Drakeford ei fod yn gresynu penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu teithwyr sy'n dychwelyd o wledydd rhestr oren i beidio hunanynysu wrth ddychwelyd i Brydain os ydynt wedi cael eu brechu'n llawn yn erbyn Covid-19. Mewn cyfweliad ar raglen BBC Breakfast bore Iau, dywedodd Mr Drakeford nad yw wedi cael cyfle i rannu ei bryderon yn uniongyrchol gyda Boris Johnson.
Meddygon yn ofni ton o firysau'r gaeaf ar ben Covid-19
Gallai cynnydd enfawr fod yn y nifer o farwolaethau yn gysylltiedig â'r ffliw dros y gaeaf hwn, gydag ofnau y bydd firysau'r gaeaf yn straen eithafol ar ben Covid-19 ar y Gwasanaeth Iechyd, yn ôl arolwg. Daw'r rhybudd gan wyddonwyr, sydd yn ofni na fydd y GIG yn gallu "ymdopi" gyda'r cynnydd.
30 ar goll ar ôl i dai ddymchwel wedi llifogydd yn yr Almaen
Mae 30 o bobl ar goll ar ôl i chwe thŷ ddymchwel wedi i law trwm achosi llifogydd yn nwyrain yr Almaen. Yn ôl adroddiadau gan y darlledwr SWR yn y wlad, fe gwympodd yr adeiladau nos Fercher yn nhalaith Rhineland-Palatinate.
Gobaith i groesawu ymwelwyr i Wersyll Glan-llyn unwaith eto
Fel rhan o’i gyhoeddiadau llacio ddydd Mercher, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, y bydd y rheoliadau yn newid o ran canolfannau preswyl. Golyga hyn, dros wyliau’r haf, y caiff hyd at 30 o blant ar un adeg fynd i ganolfannau preswyl, fel sefydliadau’r Urdd. Wrth siarad â Golwg360, mae cyfarwyddwr gwersyll yr Urdd Glan-Llyn, Huw Antur wedi croesawu’r penderfyniad, gan ddweud ei fod “yn gyhoeddiad rydym wedi bod yn aros amdano fe ers talwm a dweud y gwir”.
Britney Spears yn ennill yr hawl i ddewis cyfreithiwr
Mae Britney Spears wedi cael caniatâd i ddewis cyfreithiwr newydd i’w chynrychioli yn ei brwydr geidwadaeth barhaus. Dyma'r tro cyntaf i'r gantores gael dweud ei dweud am ei chynrychiolaeth gyfreithiol ei hun ers 2008. Mathew Rosengart fydd ei chyfreithiwr o hyn ymlaen, wedi i farnwr yn llys California gymeradwyo ei dewis.