Newyddion S4C

Dim ond 'un sgwrs ffôn' gyda Boris Johnson ers mis Mai

15/07/2021
Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru

Dim ond un sgwrs ffôn mae Prif Weinidog Cymru wedi ei gael gyda Phrif Weinidog y DU ers etholiad y Senedd ym mis Mai.

Daw hyn yn dilyn sylwadau Mark Drakeford ei fod yn gresynu penderfyniad Llywodraeth y DU i ganiatáu teithwyr sy'n dychwelyd o wledydd rhestr oren i beidio hunanynysu wrth ddychwelyd i Brydain os ydynt wedi cael eu brechu'n llawn yn erbyn Covid-19.

Mewn cyfweliad ar raglen BBC Breakfast bore Iau, dywedodd Mr Drakeford nad yw wedi cael cyfle i rannu ei bryderon yn uniongyrchol gyda Boris Johnson.

Ychwanegodd mai ond un sgwrs ffôn efo Boris Johnson ac un cyfarfod gyda holl Brif Weinidogion y DU mae wedi ei gael ers 6 Mai, sef diwrnod etholiad Senedd Cymru.

Er hynny, dywedodd Mr Drakeford ei fod yn sgwrsio gydag Uwch Weinidogion o fewn Llywodraeth y DU yn wythnosol, a'i fod yn rhannu safbwyntiau Llywodraeth Cymru.

“Rwyf wedi cael un sgwrs ffôn gyda’r Prif Weinidog ers yr etholiad ar 6 Mai, ac rydym wedi cael un cyfarfod gyda Phrif Weinidogion [y llywodraethau datganoledig] yn cwrdd â’r Prif Weinidog [y DU]," dywedodd Mr Drakeford.

"Roedd hwnnw’n gyfarfod mwy hirfaith, cyfarfod iawn, felly dyna’r cysylltiadau rwyf wedi ei gael."

Dywed Mr Drakeford ei fod yn bryderus am ganiatáu teithwyr i ddychwelyd i'r wlad o wledydd oren heb hunanynysu. 

"Rwy'n credu ei fod yn rhedeg y risg o ail fewnforio'r firws i'r Deyrnas Unedig, rwy'n credu ei fod yn rhedeg y risg y bydd amrywiolion newydd yn ymddangos mewn rhannau eraill o'r byd yn dod i mewn i'r DU ac i mewn i Gymru.

"Rwy'n credu bod y drefn flaenorol yn un fwy synhwyrol... ond mae'r rheolau wedi newid a bydd y rheolau yn newid yma yng Nghymru fel yn yr Alban, oherwydd nad oes dewis arall ymarferol."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.