Dros 30 wedi marw ar ôl i dai ddymchwel mewn llifogydd yn yr Almaen
Mae dros 30 o bobl wedi marw ac mae degau ar goll ar ôl i chwe thŷ ddymchwel wedi i law trwm achosi llifogydd yng ngorllewin yr Almaen.
Yn ôl adroddiadau gan y darlledwr SWR yn y wlad, fe gwympodd yr adeiladau nos Fercher yn nhalaith Rhineland-Palatinate.
Mae tua 25 o gartrefi eraill mewn peryg o ddymchwel yn ardal Schuld bei Adenau yn rhanbarth Eiffel.
Fe wnaeth dau ymladdwr tân foddi ac fe gafodd y fyddin eu galw i helpu pobl oedd mewn trafferthion ddydd Mercher.
Cafodd y tywydd eithafol ei achosi yn sgil gwasgedd isel yn symud yn araf, gan achosi llifogydd "unwaith mewn oes", meddai The Guardian.
Mae ardaloedd yng Ngwlad Belg hefyd wedi eu heffeithio gan lifogydd yn ystod y 24 awr diwethaf.
Darllenwch y stori'n llawn yma.
Llun: Google