Ai ysgol yng Nghwmtawe yw ffatri sêr newydd chwaraeon Cymru?

Chwith i dde: Reuben Morgan-Williams, Dan Edwards, Rubin Colwill a Joel Colwill
Reuben Morgan-Williams, Dan Edwards, Rubin Colwill a Joel Colwill

Ai ysgol yn un o bentrefi Cwmtawe yw ffatri sêr newydd chwaraeon Cymru?

Mae chwe o gyn-ddisgyblion Ysgol Gymraeg Ystalyfera wedi bod yn serennu i'w clybiau a Chymru dros y flwyddyn ddiwethaf.

Yn y byd rygbi, mae Dan Edwards, Morgan Morse a Reuben Morgan-Williams, sy’n chwarae i’r Gweilch, wedi chwarae dros Gymru.

Tra bod tri arall wedi chwarae eu rhan yng ngharfan Craig Bellamy - capten Cymru, Ben Davies, ynghyd â’r brodyr Colwill, Rubin a Joel.

Dyma’r trydydd tro i Dan Edwards gael ei enwi yng ngharfan Cymru, a’r eildro i Reuben Morgan-Williams, ar ôl iddo dderbyn ei gap cyntaf yn ystod yr haf.

Cafodd Morgan Morse wedi ei enwi yn y garfan am y tro cyntaf, yn 20 oed eleni, ac fe ennillodd ei gap cyntaf yn erbyn Seland Newydd.

Disgrifiodd Morse y profiad o gyrraedd brig y gêm fel “bach o sioc".

“O'dd e wedi digwydd mor gloi. Fi wedi bod yn anelu ato fe am amser hir, mae gyd o’r gwaith caled wedi talu bant mewn ffordd," meddai wrth Newyddion S4C.

Wrth sôn am y dylanwad cafodd yr ysgol arno, ychwanegodd: “Mae’n wych i ni fel unigolion ac i’r ysgol fi’n credu, mae’n dangos faint o help mae’r ysgol wedi rhoi. Mae’n deimlad da.

“O’n nhw’n rili dda jest yn gadael i fi ganolbwyntio ar y rygbi ond hefyd yn dweud pa mor bwysig yw addysg. Mae’n bwysig cael cydbwysedd o’r ddau.

“Mae nhw’n rhoi lot o effort mewn i’r ochr rygbi fel ysgol, mae’n dangos ac yn talu bant - mae nhw’n produce-o chwaraewyr sy’n gallu mynd ymlaen i chwarae i Gymru. Pob clod i’r ysgol.”

Image
Morgan Morse
Morgan Morse yn ennill ei gap gyntaf yn erbyn Seland Newydd. Llun: Asiantaeth Huw Evans

Morse yw pumed cyn-ddisgybl Ysgol Gymraeg Ystalyfera i gynrychioli’r wlad ar lefel ucha’r gêm yn y ddwy flynedd diwethaf.

Enillodd Keiran Williams ei gap rygbi cyntaf yn erbyn Lloegr mewn gêm gyfeillgar cyn Cwpan y Byd 2023, a chwaraeodd Owen Williams ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn yr un flwyddyn.

Wrth edrych ar y llond llu o chwaraewyr sy’n chwarae ar y lefel uchaf, dywedodd Arweinydd Rygbi'r ysgol Mr. Ryan Evans: “Mae fe’n tipyn o beth nag yw e... hoffwn i feddwl bo' ni’n darparu’r cyfleodd i’r chwaraewyr ‘ma i ddatblygu.”

‘Rhywbeth rili rare

Mae’r ysgol wedi gweld tri o’u cyn-ddisgyblion yn cynrychioli Cymru ar y cae pêl-droed yn ddiweddar hefyd, gyda'r brodyr Rubin a Joel Colwill y rhai mwyaf diweddar.

Roedd Joel Colwill ond yn 20 pan enillodd ei gap cyntaf yn erbyn Canada ym mis Medi, ac fe gafodd ei alw i’r garfan am yr eildro ar gyfer y gemau yn erbyn Lloegr a Gwlad Belg fis diwethaf.

Ben Davies, sydd wedi ennill dros 100 o gapiau dros ei wlad yw'r trydydd chwaraewr o'r ysgol i wisgo crys Cymru.

Esboniodd Rubin Colwill sut mae chwarae gyda’i frawd a bod yn rhan o’r triawd o Ystalyfera yn eithaf unigryw.

“Ma’ fe’n anhygoel rili, rhywbeth ni ‘di tyfu lan yn breuddwydio am, ni’n rili prowd," meddai wrth Newyddion S4C.

“Fi’n credu ma’ hwnna’n rhywbeth arall sy’n rili rare, smo fe’n digwydd lot yn pêl-droed, yn enwedig o ysgol fel Ystalyfera.

“Ni’n rili ffodus a fi’n credu bod yr environment yn Ystalyfera yn helpu gyda chwaraeon hefyd.”

Image
Joel a Rubin Colwill. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru
Joel a Rubin Colwill. Llun: Cymdeithas Bêl-droed Cymru

Mae’n dweud bod yr ysgol wedi cefnogi ei ddatblygiad fel chwaraewr ar y lefel uchaf. 

“O’n nhw’n gadael fi mynd a gadael ysgol i fynd lan i Gaerdydd i ymarfer, ond y peth mwyaf pwysig rili, o’n nhw’n cadw pen fi lawr," meddai.

“Galle fe wedi bod yn hawdd i jest gadael ysgol a trio gyda’r pêl-droed ond o’n nhw wastad yn gwthio ni yn yr ysgol i drial neud y gwaith, dysgu, a cael opsiwn B.”

'Ffodus'

Ysgol Gymraeg Ystalyfera oedd gyda’r nifer fwyaf o gyn-ddisgyblion yng ngharfannau rygbi a phêl-droed Cymru erbyn diwedd 2025.

Yn y gorffennol mae ysgolion eraill wedi bod yn adnabyddus am gynhyrchu rhai o sêr chwaraeon enwocaf Cymru.

Mae Ysgol Uwchradd yr Eglwys Newydd yng Nghaerdydd wedi cynhyrchu sêr cenedlaethol fel Sam Warbuton, Gareth Bale a Geraint Thomas.

Mae Coleg Llanymddyfri wedi cynhyrchu dros 50 o chwaraewyr rhyngwladol gan gynnwys y chwaraewr sydd â’r nifer fwyaf o gapiau dros ei wlad erioed, Alun Wyn Jones.

Un cyn-ddisgybl o Ysgol Gyfun Gymraeg Plasmawr cafodd ei ddewis yng ngharfan pêl-droed eleni, yw Ben Cabango. Hefyd mae'r gymnastwraig Ruby Evans yn gyn-ddisgybl.

Image
Ysgol Ystalyfera

Wrth drafod y sêr chwaraeon sydd bellach yn cynrychioli eu gwlad ar y llwyfan rhyngwladol, dywedodd Mr Ioan Bebb, Athro Chwaraeon Ysgol Gymraeg Ystalyfera bod yr ysgol yn "ffodus."

“Rhaid cofio ni hanner maint ysgol fel Yr Eglwys Newydd a Glantaf, maen nhw’n ysgolion anferth o fewn prif ddinas Cymru, ac eto ry' ni’n ysgol wledig yng Nghwmtawe.

“Ni’n eithaf ffodus ry'n ni’n cael disgyblion yn dod mewn i’r ysgol â’r awydd yna i ddysgu a maen nhw’n ymroddgar iawn i chwaraeon.” 

Ychwanegodd Pennaeth Ysgol Gymraeg Ystalyfera, Mrs. Laurel Davies, mai nod yr ysgol yw annog y dysgwyr i “anelu’n uchel.” 

“Mae gweld cyn-ddisgyblion yn cyflawni hynny yn gwireddu popeth ych chi’n gobeithio amdano.”

Prif luniau: Huw Evans a Chymdeithas Bêl-droed Cymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.