Reform yn tynnu dadl ar ryddid mynegiant yn y Senedd yn ôl wrth i'w boicot barhau

Reform Boycott

Nid fydd dadl am ryddid mynegiant yn mynd rhagddi yn y Senedd wrth i Reform barhau â’u boicot o’r sefydliad.

Cadarnhaodd y Senedd wrth Newyddion S4C fod y ddadl brynhawn Mercher wedi ei thynnu yn ôl.

Wythnos yn ôl, fe ddechreuodd y blaid foicot mewn ymateb i gyhoeddiad Llywydd y Senedd na fyddai'n galw’r AS Joe Martin i siarad yn dilyn sylwadau ynghylch pobl wyn a demograffeg y Deyrnas Unedig.

Roedd y boicot dal yn ei le ddydd Mawrth, gydag arweinydd Reform yn y Senedd, Helen Jenner, yn dweud ei bod “ddim yn fodlon â’r cynnydd sydd wedi’i wneud” mewn trafodaethau gyda’r Llywydd, Huw Irranca-Davies.

Ddydd Mercher roedd dadl wedi ei threfnu - ar gais un o aelodau Reform - ynghylch rhyddid mynegiant.

Sail y ddadl a gafodd ei chyflwyno gan Prif Chwith Reform, Llŷr Powell, oedd y dylai y Senedd “gynnal ac amddiffyn yr egwyddor o ryddid i lefaru”.

Ond daeth i’r amlwg ddydd Mercher bod y blaid wedi tynnu'r cynnig yn ôl.

Roedd Plaid Cymru, Llafur, y Gwyrddion a’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cynnig gwelliant i’r cynnig yn dweud “bod rhyddid i lefaru yn hawl sylfaenol ac iddo ddyletswyddau a chyfrifoldebau”.

Roedd angen “amddiffyniadau cyfreithiol rhag iaith sy’n annog casineb neu niwed, yn bygwth hawliau neu ddiogelwch eraill, neu sy’n achosi ofn trais, pryder neu drallod,” medden nhw.

Dywedodd y Llywydd Huw Irranca-Davies ar ddechrau Cyfarfod Llawn y Senedd ei fod yn gresynu nad oedd yr holl ASau yn bresennol a’i fod yn awyddus i sicrhau eu bod nhw oll yn gallu cymryd rhan.

Beth yw'r ddadl?

Yn ystod y boicot, mae tîm Reform wedi methu dadleuon Seneddol ar sawl mater o bwys, gan gynnwys cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gafodd ei chyhoeddi ddydd Mawrth.

Mae hyn wedi arwain at feirniadaeth gan bleidiau eraill, sy'n cyhuddo Reform o fethu â chyflawni ei dyletswyddau fel y brif wrthblaid.

Wrth siarad ar banel Sharp End, amddiffynnodd Carmelo Colasanto, sy'n cynrychioli Sir Gaerfyrddin dros Reform, eu safiad, gan ddweud bod y blaid yn sefyll dros ei hegwyddorion.

Pam y boicot?

Mae boicot Reform yn deillio o waharddiad ar gyfraniadau gan Joe Martin yn dilyn ei sylwadau yn y Senedd ddydd Mawrth diwethaf.

Dywedodd: “Ga i ddatganiad gan eich Llywodraeth am y newid demograffig sy’n golygu bod pobl eraill yn cymryd lle pobl wyn Prydeinig yn y DU.

“Oherwydd mae maint y newid wedi bod yn syfrdanol.

“Mae mewnfudo torfol a chyfraddau geni gwahanol yn golygu, mewn dim ond 37 mlynedd, yn 2063, y byddwn yn lleiafrif yn ein gwlad ein hunain.

“Mae’r newid hwnnw eisoes wedi digwydd yn Llundain, Birmingham, Caerlŷr, Slough, Luton a Manceinion, a dydw i ddim eisiau iddo ddigwydd yma.”

Yn ddiweddarach yn y prynhawn, dywedodd y Llywydd ei fod yn ystyried sylwadau Mr Martin yn rhai “diangen o bryfoclyd a bwriadol sarhaus”.

Dywedodd: “Er ei bod bob amser yn bosibl codi materion polisi dilys yn ymwneud â mewnfudo yn y Siambr hon, roedd ffocws y cyfraniad hwnnw ar hil ac ethnigrwydd yn amlwg yn wahaniaethol, yn sarhaus, ac yn tanseilio urddas y Senedd.”

Bydd y gwaharddiad rhag siarad yn ystod trafodion y Senedd yn parhau nes bod Mr Martin yn ymddiheuro yn y Siambr, meddai. 

Mae wedi dweud nad yw’n bwriadu gwneud hynny.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.