‘Llawer sydd angen ei drwsio’ meddai Llafur wrth i lywodraeth Plaid gyflwyno cyllideb ddrafft

Elin Jones

Mae llefarydd Llafur Cymru ar gyllid wedi dweud bod “llawer sydd angen ei drwsio” wrth i Lywodraeth Cymru dan arweiniad Plaid Cymru gyflwyno ei chyllideb ddrafft.

Bydd cael y Senedd i basio’r gyllideb yn brawf allweddol i’r Llywodraeth newydd ar ôl chwe mis mewn grym. Mae’n debygol y bydd yn rhaid iddi ddibynnu ar Lafur i wneud hynny.

Roedd aelodau Reform UK yn absennol o’r ddadl ar ôl penderfynu boicotio’r Senedd mewn ymateb i waharddiad ar un o’u haelodau etholedig.

Wrth gyhoeddi’r gyllideb, dywedodd y Gweinidog Cyllid Elin Jones MS bod cyllid cyhoeddus yn parhau i fod yn dynn, gyda gostyngiadau mewn termau real i gyllid gan Lywodraeth y DU, ochr yn ochr â chwyddiant uwch a phwysau gwario sylweddol.

Dywedodd bod y Gyllideb yn “gosod y sylfeini ar gyfer popeth y mae'r llywodraeth hon eisiau ei gyflawni dros dymor y Senedd hon, gan gynnwys Gwasanaeth Iechyd cryfach, cymorth i gynghorau lleol a mwy o gymorth gyda gofal plant”.

“Mae'r Gyllideb hon yn canolbwyntio adnoddau lle byddan nhw'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf i fywydau pobl a byddwn ni'n gwneud i bob punt gyfrif.

“Byddwn ni'n cael ein barnu yn ôl y canlyniadau rydyn ni'n eu cyflawni i bobl Cymru, nid yn ôl faint sy'n cael ei wario.”

Ond dywedodd llefarydd Llafur ar gyllid, Huw Thomas MS y byddai Llafur yn edrych ar “wella” y Gyllideb yn ystoid trafodaethau gyda’r llywodraeth.

“Rwy’n cydnabod bod y setliad yn heriol,” meddai.

“Y broblem yw bod Plaid Cymru wedi gwneud cyfres o addewidion yn yr etholiad heb eu costio a heb ddweud o ble y byddai’r arian yn dod. Cafodd gweinidogion a’r prif weinidog eu holi dro ar ôl tro: ble fydd y toriadau?

“Wel, heddiw, rydyn ni’n cael gwybod. Rwy’n siŵr bod gweinidogion yn sylweddoli na fydd modd cyflawni rhai o’r pethau y gwnaethon nhw eu haddo yn ystod y tymor hwn.”

Dywedodd Mr Thomas ei bod yn “siomedig” nad oedd “yr un geiniog” wedi’i neilltuo ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol, er gwaethaf y cytundeb gyda Llafur ar y gyllideb atodol i sicrhau £60m eleni.

Dywedodd na fydd rhai cynghorau’n gallu ymdopi â’r galw cynyddol gyda chynnydd o “ddim ond 2.5%” yn eu cyllid.

'Trawsnewidiol'

Cafodd trafodion y Senedd eu hatal ar ôl i aelod Llafur, Mike Hedges, ymddangos yn sâl yn y siambr. Cafodd gymorth i gerdded allan.

Pan ailddechreuodd y trafodion, galwodd llefarydd y Ceidwadwyr ar gyllid, Sam Rowlands, ar weinidogion Plaid Cymru i ddileu’r dreth trafodiadau tir ar brif gartrefi. Dyma’r dreth sy’n cyfateb i dreth stamp yng Nghymru.

Fe wnaeth hefyd annog gweinidogion i osod terfyn ar gynnydd “gormodol” yn y dreth gyngor.

Byddai polisïau o’r fath yn “wirioneddol drawsnewidiol”, meddai, “gan ddangos newid go iawn a rhoi mwy o arian ym mhocedi gweithwyr sy’n gweithio’n galed yma yng Nghymru”.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.