'Hen bryd' cael seren anabl ar 'I’m a Celeb' yn ôl swyddog hygyrchedd yr Urdd
Mae’r arbeingwr sy’n gyfrifol am sicrhau bod maes Eisteddfod yr Urdd yn hygyrch i bawb yn dweud ei bod hi’n “hen bryd” i’r gyfres deledu I’m a Celebrity, Get Me Out of Here! gynnwys cystadleuydd anabl.
Eleni, yn ogystal â seren Gavin and Stacey, Joanna Page, a’r cyn-bêl-droediwr Wayne Rooney, mae’r athletwr Paralympaidd a’r cyflwynydd teledu Ade Adepitan ymhlith cystadleuwyr y gyfres.
Yn ôl adroddiadau, mae cynhyrchwyr y rhaglen, sydd ar ei 26ain gyfres eleni, wedi treulio misoedd yn addasu’r set er mwyn cael gwared ar rwystrau.
Mae Mr Adepitan, 53 oed, wedi dweud y bydd yn defnyddio baglau a chadair olwyn i symud o amgylch y jyngl.
Ollie Griffith Salter yw swyddog hygyrchedd Eisteddfod yr Urdd, ac mae wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod y Maes mor rhwydd i bobl deithio ar ei draws a chymryd rhan mewn digwyddiadau bob blwyddyn.
Wrth drafod ymddangosiad Mr Adepitan yn y gyfres, dywedodd ei fod yn “gyffrous” i weld cystadleuydd anabl yn cymryd rhan eleni.
Dywedodd Mr Griffith Salter wrth Newyddion S4C: “Gwelais i fideo o fe’n cyrraedd Awstralia a oedd chatter yn y cymuned pêl fasged cadair olwyn cyn hynny, so nes i ffeindio mas ryw cwpwl wythnose’n ôl.
“Oedd pawb yn excited gweld rhywun anabl yn mynd arno. Mae’n cyn bryd i rhywun fynd arno fe. Dyle nhw di wneud e blynydde’n ôl ond o leia maen nhw’n dechrau meddwl amdano fe nawr a maen nhw di neud y step cynta.”
Fe wnaeth Ade golli’r defnydd o’i goes chwith yn 15 oed ar ôl dal polio.
Ers hynny, mae wedi dod i amlygrwydd fel aelod o dîm pêl-fasged cadair olwyn Prydain yng Ngemau Paralympaidd 2004, 2012 a 2016.
Mae hefyd yn adnabyddus fel cyflwynydd rhaglenni teithio ar y teledu, gan gynnwys Beyond Boundaries yn 2005, pan deithiodd drwy anialwch, mynyddoedd, jyngl ac afonydd yn Nicaragua.
'CV yn siarad am ei hun'
Mae Ollie, sy’n gyn-chwaraewr pêl-fasged cadair olwyn proffesiynol, wedi wynebu Ade ar y cwrt sawl gwaith ac yn dweud nad oes amheuaeth ynghylch ei allu corfforol.
“Fi di nabod Ade am blynydde, mae’n chwarae i London Titans a fi di chwarae’n erbyn e sawl tro ers 2015," meddai.
“Ar y court, mae fe’n gryf, mae fe’n gyflym a mae fe’n Paralympian, felly mae ‘da fe’r IQ i fynd rownd pethe.
“Mae fe di nofio ‘da sharks, di bod lan Kilimanjaro, mae’n gwybod sut i iwsho cadair olwyn fe ar expert level.”
Ychwanegodd: “Yn bendant mae’n beth da bod e ar y sioe.
“Fi di gweld mor gymaint o comments ar social media dros yr wythnosau dwytha o bobl sydd ddim yn deall anableddau a’r pethau maen nhw’n dweud mor hyll, ‘achos mae fe mewn cadair olwyn mae e ffili ‘neud y challenges, mae e just yna am y sympathy vote’ - na.
“Y rhan fywaf o’r challenges, ti’n crawling trwyddo pethau a mae upper body fe mor gryf, bydde fe ddim yn cael unrhyw problem gyda unrhyw un o’r challenges.
“Mae angen edrych ar y person a nid ar y cadair olwyn. Mae ei CV yn siarad am ei hun.”
Addasu'r set
Ac yntau’n gyfrifol am sicrhau hygyrchedd ar faes Eisteddfod yr Urdd ac mewn sawl gŵyl gerddorol, mae Ollie yn credu y bydd hinsawdd Awstralia yn gwneud y gwaith o addasu’r set ar gyfer cadeiriau olwyn yn haws.
"Gyda'r arian sydd da nhw a’r ffaith bod nhw’n gallu adeiladu sets enfawr, a dyw e ddim yn jyngl go iawn, mae 'na paths i gael yna, pontydd, felly bydde fe ddim yn anodd i rhoi pethau mewn i le," meddai.
“S’dim llawer o glaw yna felly bydd e ddim yn mynd yn fwdlyd, fel yng Nghymru, felly mae hwnna’n ideal i nhw. S’dim rhaid ymladd trwy’r mwd.
"So mi fyddai mynd dros y mwd gyda compacter neu whacker plate, mae e’n mynd i sefyll yn galed.
"Mae hwnna’n mynd i sefyll yn galed a bydd hwnna’n ddigon saff i fynd drosto bob dydd yn ystod yr amser mae e yn y jyngl. A hefyd, mae’n helpu pawb arall mas."
Dywedodd y byddai cael gwared ar rwystrau hefyd o fudd i bawb arall yn y gwersyll.
"Dros y blynydde fi di gweld pobol yn stryglo mynd lan y grisiau cerryg i fynd lan i’r phonebox na - mae 'na pobl hŷn yn mynd ar y sioe, pobl sydd di cael injuries yn y tasgau - pam maen nhw heb feddwl am hwnna cyn nawr?" gofynnodd.
"Mae fe’n helpu pawb mas a neud e’n fwy o amser da yn y jyngl, a bod pobol ddim yn cwympo dros pethau drwy’r amser.
"Os yw popeth yn saff ac yn hygyrch yn y jyngl ag yn enjoio, a bod popeth yn hygyrch ac yn saff, da chi’n mynd i enjoio mwy a mae hynny am helpu yn y long run."
Prif Lun: Urdd Gobaith Cymru/ITV