Llongyfarch Reform am ‘leihau maint y Senedd’ wrth i’w boicot barhau
Mae arweinwydd y Ceidwadwyr wedi llongyfarch Reform ar “sicrhau addewid eu maniffesto i leihau maint y Senedd” wrth i’w boicot o’r sefydliad barhau.
Fe wnaeth arweinydd Reform UK yng Nghymru gadarnhau ddydd Mawrth y bydd y grŵp yn parhau i foicotio trafodion Senedd Cymru ar ôl i un o’i aelodau gael ei wahardd rhag siarad.
Cafodd Joe Martin, AS Reform dros Gaerdydd Penarth, ei wahardd yr wythnos diwethaf ar ôl honni bod pobl eraill yn cymryd lle pobl wyn Prydeinig yn y DU.
Wrth siarad yn y Senedd ddydd Mawrth dywedodd Darren Millar, arweinydd y Ceidwadwyr yn y Senedd, yr hoffai longyfarch y blaid.
“Ga’i ddechrau drwy longyfarch Reform ar sicrhau addewid eu maniffesto i leihau maint y Senedd?” gofynnodd.
“Maen nhw yn gwneud yn dda iawn yn hynny o beth.”
Roedd cwestiynau arweinwyr y pleidiau i’r Prif Weinidog yn y Senedd wedi dechrau wrth i’r Llywydd, Huw Irranca-Davies, nodi bod arweinydd Reform yn “absennol”.
Aeth yn syth ymlaen i wahodd arweinydd y trydedd blaid fwyaf, Ken Skates o’r Blaid Lafur, i ofyn y cwestiwn cyntaf.
Dechreuodd Reform, y grŵp gwrthblaid mwyaf yn y Senedd, foicotio trafodion y Senedd ddydd Mercher diwethaf i gefnogi Joe Martin.
Cadarnhaodd Helen Jenner, arweinydd y blaid yng Nghymru, na fyddai’r grŵp yn dychwelyd i’r cyfarfod llawn brynhawn Mawrth.
Dywedodd mewn datganiad: “Ar ôl cynnal trafodaethau gyda’r Llywydd am bwysigrwydd rhyddid mynegiant, dydyn ni ddim yn fodlon â’r cynnydd sydd wedi’i wneud.
“Fyddwn ni ddim yn dychwelyd i Siambr y Senedd heddiw. Nid oes modd cael dadlau a chraffu go iawn oni bai bod gan aelodau etholedig y rhyddid i fynegi eu hunain fel y maen nhw’n gweld yn dda.
“Wrth i ni barhau i weithio’n ddiflino dros ein hetholwyr, byddwn yn ceisio cynnal rhagor o drafodaethau gyda’r Llywydd ac yn ystyried pob opsiwn arall sydd ar gael i ni.”
‘Syfrdanol’
Daeth y gwaharddiad ar ôl sylwadau gan Mr Martin yn y Senedd ddydd Mawrth diwethaf.
Dywedodd: “Ga i ddatganiad gan eich Llywodraeth am y newid demograffig sy’n golygu bod pobl eraill yn cymryd lle pobl wyn Prydeinig yn y DU?
“Oherwydd mae maint y newid wedi bod yn syfrdanol.
“Mae mewnfudo torfol a chyfraddau geni gwahanol yn golygu, mewn dim ond 37 mlynedd, yn 2063, y byddwn yn lleiafrif yn ein gwlad ein hunain.
“Mae’r newid hwnnw eisoes wedi digwydd yn Llundain, Birmingham, Caerlŷr, Slough, Luton a Manceinion, a dydw i ddim eisiau iddo ddigwydd yma.”
Yn ddiweddarach yn y prynhawn, dywedodd y Llywydd, Huw Irranca-Davies, ei fod yn ystyried sylwadau Mr Martin yn rhai “diangen o bryfoclyd a bwriadol sarhaus”.
Dywedodd: “Er ei bod bob amser yn bosibl codi materion polisi dilys yn ymwneud â mewnfudo yn y Siambr hon, roedd ffocws y cyfraniad hwnnw ar hil ac ethnigrwydd yn amlwg yn wahaniaethol, yn sarhaus, ac yn tanseilio urddas y Senedd.”
Bydd y gwaharddiad rhag siarad yn ystod trafodion y Senedd yn parhau nes bod Mr Martin yn ymddiheuro yn y Siambr, meddai.
Mae wedi dweud nad yw’n bwriadu gwneud hynny.