'Mor anodd i bobl ifanc gael swydd': 'Angen newidiadau radical' i fynd i'r afael â diweithdra

Olivia Howard

Wrth i adroddiad gael ei gyhoeddi ddydd Mawrth sy'n rhybuddio fod angen "newidiadau radical" i fynd i'r afael â diweithdra ymhlith yr ifanc, mae un fenyw o Gaerfyrddin yn dweud ei bod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i swydd barhaol.

Fe wnaeth nifer y bobl ifanc ledled y DU nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth, na hyfforddiant - NEETs - godi i dros filiwn yn gynharach eleni.

Mae cyn-Ysgrifennydd Iechyd Llafur, Alan Milburn, wedi rhybuddio y gallai'r ffigur godi o un o bob wyth i un o bob chwech erbyn 2031 heb weithredu.

Bydd Mr Milburn yn cyhoeddi ei adroddiad hir-ddisgwyliedig ddydd Mawrth, gan fynnu bod angen "newid radical" i fynd i'r afael â'r broblem.

Bydd yn dweud nad argyfwng economaidd yn unig yw'r gyfradd ddiweithdra bresennol ymhlith pobl ifanc, ond argyfwng moesol hefyd.

Ond yn ôl un fenyw ifanc o Gaerfyrddin, nid yw dod o hyd i swydd yn hawdd ar hyn o bryd.

Mae Olivia Howard sy'n 24 oed, yn dweud ei bod wedi "colli cyfrif" ar nifer y swyddi llawn-amser iddi ymgeisio amdanyn nhw dros y chwe mis diwethaf.

Dywedodd ei bod wedi ymgeisio am o leiaf 50 swydd o fewn ei meysydd gradd perthnasol yn ogystal ag ar draws diwydiannau manwerthu a gweinyddol.

'Torcalonnus'

Er bod gan Olivia radd BA Animeiddio yn ogystal â gradd MA Graffeg, mae hi'n gweithio fel barista mewn amgueddfa gelf am ddeuddydd yr wythnos.

Dywedodd Olivia ei bod wedi cael gymaint o "drafferth" ymgeisio am swyddi parhaol a'i fod yn "dorcalonnus" wrth iddi gael ei gwrthod.

"Ti’n edrych o dy gwmpas ac yn meddwl ‘o gosh... be ‘dw i fod i wneud?’" meddai wrth Newyddion S4C.

"Er gwaethaf faint o brofiad dwi ‘di ennill dros y blynyddoedd - ‘dw i ‘di gweithio ers oeddwn i’n 16 oed ac wedi trïo ennill profiadau drwy gydol fy ngraddau BA ac MA er mwyn gwella’r siawns o gael swydd.

"'Nes i dal ffeindio fy hun yn ddi-waith ar ddiwedd fy ngradd, methu yn y byd â chael swydd er gwaethaf pa mor ddeniadol oeddwn i’n gwneud fy CV a’m portffolio i edrych.

"’Dw i’n ymgeisio ac yn ymgeisio ers misoedd a dw i bob amser yn cael yr un ymateb: mod i’n ymgeisydd gwych, ond nad oes gen i ddigon o brofiad ar gyfer y swydd honno," meddai.

Image
Alan Milburn
Bydd adroddiad gan gyn-Ysgrifennydd Iechyd Llafur, Alan Milburn, i ddiweithdra ymhlith yr ifanc yn cael ei gyhoeddi ddydd Mawrth

 

Esboniodd Olivia sut mae rhai cyflogwyr yn y diwydiannau manwerthu wedi dweud wrthi bod ganddi "ormod" o gymwysterau - ac y bydden nhw’n pryderu iddi symud ymlaen yn rhy fuan am swydd y byddai "wirioneddol eisiau".

"Mae’r ansicrwydd wedi effeithio ar bob agwedd o fy mywyd i," meddai.

"Mae’n amhosib cydbwyso popeth - ar hyn o bryd, dw i’n gwerthfawrogi'r swydd ran-amser dwi ynddi’n fawr iawn, ond mae’n rhaid imi dreulio gweddill yr wythnos wedyn yn ymgeisio am swyddi parhaol achos dyw dau ddiwrnod ddim yn ddigon.

"Mae’n rhaid neilltuo amser i wneud hynny, yn ogystal â’r gwaith llawrydd, a chadw ar ben y cyfryngau cymdeithasol...

"Mae paratoi cais a’i deilwra ar gyfer swydd benodol yn cymryd llawer o amser.

"Dw i’n 24 oed ac yn byw gyda fy rhieni - dyw hynny ddim yn ideal."

Ddydd Llun, cafodd rhai o argymhellion yr adroddiad eu cyhoeddi ymlaen llaw.

Roedd awgrym y dylai cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr ar gyfer gweithwyr rhwng 21 a 24  gael eu lleihau’n raddol er mwyn annog busnesau i gynnig mwy o gyfleoedd gwaith i bobl ifanc.

Mewn ymateb esboniodd Olivia y byddai’n hoff o weld yr arian y byddai busnesau’n ei arbed drwy’r cynllun hwn yn mynd "tuag at fwy o gyfleoedd i raddedigion".

"’Dw i’n poeni wrth ddarllen y terfyn oedran 16-24 oed - be' sy’n digwydd i’r rhai ohonom ni sy’n troi 25 oed a dal heb swydd?" meddai.

"’Dw i’n trïo mor galed i ddod o hyd i rywbeth yma yng Nghymru - 'dw i ddim am fod yn rhywun sy’n dweud, ‘Fe af i ble mae’r swydd’ a gadael Cymru ar ôl, a chyfrannu at sefyllfa lle nad yw’r economi’n tyfu cymaint.

"Mae gan Fryste a Llundain gymaint yn fwy i gynnig imi na Chaerdydd er enghraifft, ac mae hynny’n siomedig iawn - ‘dw i eisiau gweithio mewn rhywle sydd â chysylltiad i’r Gymraeg hefyd."

Beth yw'r cynlluniau?

Nod yr adroddiad yw lleihau cyfradd Neets o 13% i tua 5% erbyn 2036, gan roi'r DU ymhlith y gwledydd sy'n perfformio orau o ran cyfranogiad pobl ifanc.

Nid yw cyfradd y DU erioed wedi bod yn is na 9.7% ers i'r data ddechrau cael ei gasglu yn 2001.

Yn ôl yr adroddiad, gallai'r diwygiadau arwain at 600,000 yn fwy o bobl ifanc mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant erbyn 2036, gyda thua 440,000 mewn gwaith hirdymor.

Ymhlith y cynigion mae cyflwyno "lwfans ieuenctid" i bobl dan 25 oed, gan ddod â'u hawl i'r Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ac elfen iechyd y Credyd Cynhwysol (UC) i ben.

Mae elusennau eisoes wedi mynegi pryder, gan fod 45.3% o bobl ifanc Neet wedi'u dosbarthu'n anabl yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth. 

Mae Mr Milburn yn dweud y bydd buddsoddi mewn hyfforddiant a chyfleoedd gwaith yn dod cyn unrhyw newidiadau i fudd-daliadau.

Y nod yw dyblu nifer y bobl ifanc sy'n cwblhau prentisiaethau dros y degawd nesaf, a sicrhau mynediad cyflymach at gymorth iechyd meddwl.

Mewn cynhadledd i'r wasg ddydd Mawrth, bydd Mr Milburn yn dweud: "Nid yw cenhedlaeth goll yn anochel. Mae'n ddewis. Ac rwy'n credu mai'r dewis anghywir ydyw.

"Nid argyfwng economaidd yn unig mohono, ond argyfwng moesol hefyd.

"Rydym yn methu â rhoi'r cyfleoedd sydd eu hangen ar y genhedlaeth nesaf i lwyddo.

"Mae'n bryd sicrhau mai gwaith, yn hytrach na budd-daliadau, fydd dyfodol y genhedlaeth nesaf."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.