'Rhagor i'w wneud': Ymdrech i ddenu mwy o ymwelwyr i Daith Pererin Gogledd Cymru
Mae ymdrech ar waith i gynyddu potensial un o lwybrau cerdded mwyaf ysbrydol Cymru, 15 mlynedd ers ei sefydlu.
Yn gynharach eleni, cafodd Taith Pererin Gogledd Cymru ei henwi gan gylchgrawn National Geographic fel un o’r profiadau gorau yn y byd o ran llesiant.
Mae ymddiriedolwyr nawr eisiau manteisio ar y sylw hwnnw ac yn ymgynghori ar sut i wella’r profiad i gerddwyr, yn ogystal â chynyddu’r budd i fusnesau lleol.
Fe gafodd y llwybr ei sefydlu yn 2011 ac mae wedi ei seilio ar lwybr y Camino de Santiago yng ngogledd Sbaen.
Mae’n olrhain taith pererinion ganrifoedd yn ôl i Ynys Enlli ac yn mynd ar hyd gogledd Cymru o Abaty Dinas Basing, ger Treffynnon, Sir y Fflint, draw i Aberdaron ar Ben Llŷn.
Mae rhai busnesau lleol fel Cwrw Llŷn eisoes yn dathlu treftadaeth yr ardal yn eu cynnyrch, ond yn ôl un o’r cyd-berchnogion, Myrddin ap Dafydd, mae rhagor i’w wneud i elwa.
“‘Dan ni wedi bod ychydig bach yn swil o wneud hynny,” medd y cyn-Archdderwydd a’r cyhoeddwr llyfrau.
"Swil o blethu ein treftadaeth efo’r diwydiant ymwelwyr a’r diwydiant hamdden.
“Mae taith y pererinion yn rhan o dreftadaeth Cymru ac wrth reswm mi ddylai pawb yng Nghymru fod yn cerdded y llwybr yma.
“Ond hefyd ymwelwyr tramor. Maen nhw wrth eu boddau yn mynd i lefydd ysbrydol yn Iwerddon, Galicia, yng Ngwlad y Basg. Ac felly pam ddim yma hefyd?”
Yn ddiweddar, cynhaliodd Esgobaeth Llanelwy sesiynau ymgynghori â’r cyhoedd ar sut i wneud rhagor o’r llwybr.
Maen nhw’n chwilio am syniadau ar sut i wella’r profiad i gerddwyr a sut y gallai busnesau lletygarwch lleol elwa.
Mae Janet Cameron yn un o ymddiriedolwyr Taith Pererin Gogledd Cymru ac yn dweud eu bod eisiau clywed gan drigolion lleol.
“Fyse’n ddefnyddiol iawn cael rhywun sy’n gallu cludo bagiau achos mae’n daith hir.
“Felly mae’n dipyn o fenter cario’ch pac am bythefnos. Fyse’n wych cael rhywun sy’n gallu cludo bagiau, efallai ar y cychwyn neu ar y diwedd.
“Mae ‘na gymaint o hen gapeli ac eglwysi hyfryd ar y daith. Mae rhai pobl yn cerdded jyst er mwyn cael bod allan ac mae eraill yn cerdded o ran yr ochr ysbrydol.”
'Ychwanegu at Lwybr yr Arfordir'
Mae Ymddiriedolaeth Taith Pererin Gogledd Cymru’n bwriadu casglu rhagor o ffigurau am ddefnydd y llwybr eleni yn y gobaith o geisio am ragor o gyllid i’w hyrwyddo yn y dyfodol.
Yn Aberdaron, mae Iain Roberts yn cadw gwesty Tŷ Newydd ac mae’n cytuno y gallai rhoi mwy o sylw i’r llwybr fod o fudd i fusnesau.
“Mae Llwybr Arfordir Cymru wedi helpu ers tro - mae o fel rhyw brosiect sydd gan rai ohonyn nhw yn trio cerdded reit rownd Cymru.
“Mae ‘na lawer yn dod i aros am rhyw ddwy neu dair noson a gwneud darnau o’r llwybr a symud ymlaen.
“Mi allai’r daith pererinion ychwanegu at Lwybr yr Arfordir. Pobl wahanol ella’n dwad am resymau gwahanol.
“Ac wrth gwrs mae genny’ ni Enlli jyst ar yr arfordir yn fan ‘na’n denu hefyd.”
Mae Esgobaeth Llanelwy’n parhau i wahodd syniadau am sut i wella’r daith.
