Yr actor, dramodydd a chyfarwyddwr theatr Jeremy Turner wedi marw yn 68 oed
Mae’r actor, dramodydd a chyfarwyddwr theatr Jeremy Turner wedi marw yn 68 oed.
Yn un o sylfaenwyr Cwmni Theatr Arad Goch, roedd yn ffigwr blaenllaw ym maes theatr i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Mewn datganiad, dywedodd ei deulu ei fod wedi bod yn byw gyda chanser ers peth amser.
"Mae ei deulu’n cofio gŵr, tad a thadcu cariadus ac egnïol ac yn diolch am bob gofal iddo a chefnogaeth i’r teulu," medden nhw.
Dros yrfa o 45 mlynedd, roedd ei waith yn dod â straeon a chymeriadau yn fyw i gynulleidfaoedd ifanc, gan fynd â’r Gymraeg a diwylliant Cymru i lwyfannau ar draws y byd.
Bu’n gyfarwyddwr artistig a phrif weithredwr Arad Goch o sefydlu’r cwmni yn 1989 hyd ei ymddeoliad yn 2024.
Wrth dalu teyrnged iddo, dywedodd ei deulu: "Am dros dri deg pump o flynyddoedd bu’n gyfrifol am sioeau i blant a phobl ifanc ledled Cymru.
"Fel un a ddysgodd y Gymraeg yn yr ysgol roedd yn angerddol dros yr iaith a diwylliant Cymru a châi ei barchu am ei farn ddi flewyn ar dafod a’i greadigrwydd hael wrth feithrin talent perfformwyr o bob oedran."
Roedd hefyd yn adnabyddus i nifer o blant am ei ran yng nghyfres Pentre Bach, gan chwarae rôl Y Pry Bach Tew.
Sefydlu Arad Goch
Cafodd ei eni yn Aberdâr yn 1958, yn fab i Stan a Megan Turner, a’i fagu yn Godreaman.
Ar ôl astudio Cymraeg, Ffrangeg ac Economeg ar gyfer Safon Uwch, aeth i Goleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, i astudio Ffrangeg, cyn newid i astudio Cymraeg a Drama.
Y flwyddyn ganlynol, sefydlodd y cwmni theatr arbrofol Cwmni Cyfri Tri gyda dau ffrind o’r coleg.
Yn 1989, unodd Cyfri Tri â Chwmni Theatr Crwban, y cwmni theatr mewn addysg Cymraeg cyntaf, i ffurfio Arad Goch.
Ymhlith y cyd-sylfaenwyr eraill roedd Mari Rhian Owen, Mair Tomos Ifans, George Llyfni, Ellen ap Gwynn a Catrin Hughes.
O ddechreuadau cymharol fach, tyfodd Arad Goch yn un o brif ddarparwyr theatr i blant a phobl ifanc yng Nghymru.
Wrth gyhoeddi ei fwriad i ymddeol yn 2024, roedd Jeremy yn cofio dyddiau cynnar y cwmni, gydag un ffôn, dau gyfrifiadur Amstrad a thri desg, ac ymarferion yng nghanol oerfel hen Ganolfan y Sgubor yn Aberystwyth.
Prynodd y cwmni ei ganolfan ei hun yn y dref yn 1992. Cafodd yr adeilad ei ddatblygu’n ddiweddarach yn gartref i theatr, gweithgareddau creadigol a gwaith cymunedol.
O dan ei arweiniad, roedd Arad Goch yn perfformio mewn ysgolion, theatrau, canolfannau ieuenctid a mannau cymunedol.
Erbyn cyhoeddi ei ymddeoliad, roedd y cwmni’n ymgysylltu â thua 24,000 o bobl ifanc bob blwyddyn drwy berfformiadau a gweithgareddau creadigol.
Gwaith rhyngwladol
Roedd ei weledigaeth hefyd yn un ryngwladol. Aeth ei waith gydag Arad Goch ag ef i fwy na 30 o wledydd i berfformio, cyfarwyddo, hyfforddi a siarad mewn cynadleddau.
Sefydlodd hefyd ŵyl ryngwladol Agor Drysau, gan sicrhau bod gwaith theatr o Gymru yn cael ei weld a’i barchu’n rhyngwladol, yn ôl ei deulu.
Wrth roi teyrnged i’w gyfraniad adeg ei ymddeoliad, tynnodd cadeirydd bwrdd Arad Goch, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones, sylw at ei allu i ddatblygu, cydweithio a rhoi cynnig ar syniadau newydd.
Roedd hynny, meddai, yn rhan bwysig o lwyddiant a hirhoedledd y cwmni.
Yn ogystal â’i waith theatr, bu’n arolygydd lleyg gydag Estyn ac yn hyfforddwr ar gynllun Dysgu Creadigol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Roedd hefyd yn aelod anrhydeddus o’r Academi Gymreig.
Priododd yr actores a’r dramodydd Mari Rhian Owen, o Lanfyllin, yn 1989, ac roedd ganddyn nhw ddau o blant.
Cafodd y ddau eu derbyn i Orsedd y Beirdd yn Eisteddfod Genedlaethol Ynys Môn yn 2017.
Parhaodd ei ddiddordeb mewn dysgu ac ymchwilio ar ôl ymddeol.
Ym mis Gorffennaf 2025, enillodd ddoethuriaeth o Brifysgol Aberystwyth am ymchwil i’r broses o greu theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng nghyd-destun iaith a diwylliant lleiafrifol.
