Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol Ward Dyfi yn Ysbyty Tywyn

Ysbyty Tywyn

Fe fydd ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei lansio ddydd Llun ar ddyfodol ward i gleifion mewnol yn Ysbyty Cymuned Tywyn yn ne Gwynedd. 

Fe gafodd Ward Dyfi ar gyfer cleifion mewnol ei chau ym mis Ebrill 2023 yn dilyn ymdrechion dro ar ôl tro i recriwtio, a “dibyniaeth fawr” ar staff asiantaeth.

Fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y byddai'r ward yn ail-agor ymhen misoedd. 

Dair blynedd a hanner yn ddiweddarach, mae'r ward yn parhau ar gau, gyda chyfarfodydd cyhoeddus yn cael eu cynnal yn y cyfamser gan ymgyrchwyr. 

Mae trigolion wedi dweud yn y gorffennol eu bod yn wynebu teithiau hir i ysbytai yn Nolgellau, Aberystwyth, Wrecsam a Bangor i ymweld â pherthnasau sâl. 

Dros y misoedd diwethaf, mae Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod yn adolygu gwasanaethau yn yr ysbyty, a bellach wedi lansio ymgynghoriad cyhoeddus. 

Ychwanegdd y bwrdd iechyd eu bod yn "cydnabod bod hyn yn ddiweddarach nag a ragwelwyd yn wreiddiol" ond bod angen "mwy o amser arnom i gwblhau deunyddiau'r ymgynghoriad a'r wybodaeth ategol". 

Dau ddewis

Mae'r bwrdd iechyd bellach wedi amlinellau dau ddewis ar gyfer dyfodol y ward. 

Byddai Opsiwn A yn arwain at ddychwelyd at y model i gleifion mewnol, gyda Ward Dyfi yn ailagor, yn amodol ar gyflawni lefelau staffio diogel a chynaliadwy bob amser. 

Byddai angen i rai gwasanaethau cymunedol sy'n cael eu darparu o'r ward ar hyn o bryd symud i leoliad arall yn yr ysbyty neu i safleoedd lleol eraill yn ôl y bwrdd iechyd. 

Opsiwn B fyddai i ehangu gwasanaethau cymunedol yn y cartref a chlinigau, triniaethau a therapïau yn yr ysbyty, gan olygu na fyddai unrhyw welyau i gleifion mewnol yno.

Byddai Ward Dyfi yn cael ei hailbwrpasu fel Canolfan Triniaeth Ddydd.

Ychwanegodd y bwrdd iechyd nad oes unrhyw benderfyniad terfynol wedi ei wneud hyd yma, gan ddweud fod yr ymgynghoriad yn gyfle i ystyried yr opsiynau a rhoi adborth iddynt eu hystyried. 

Bydd yr ymgynghoriad yn para am 14 wythos, gan ddod i ben ar ddydd Llun 22 Chwefror 2027. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.