'Emosiynol tu hwnt': Ymateb rhai o Gymry Seland Newydd i'r fuddugoliaeth rygbi hanesyddol
'Emosiynol tu hwnt': Ymateb rhai o Gymry Seland Newydd i'r fuddugoliaeth rygbi hanesyddol
Mae rhai o'r Cymry sy'n byw yn Seland Newydd yn dweud fod y fuddugoliaeth dros y Crysau Duon ddydd Sadwrn yn eu gwneud nhw'n "falch i fod yn Gymry oddi cartref."
Daeth Cymru â 73 mlynedd o siom i ben drwy daflu disgwyliadau rygbi’r byd o’r neilltu ac ennill gêm epig ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd o 35-28 yn Stadiwm Principality.
Roedd Seland Newydd wedi ennill 34 gêm yn olynol yn erbyn Cymru ers cael eu trechu ddiwethaf ganddynt ym 1953, ond llwyddodd tîm Steve Tandy i gyflawni camp ryfeddol yn y ffordd mwyaf anhygoel, ar ôl gêm gofiadwy yng Nghaerdydd.
Ac er bod miliynau yn gwylio'r gêm yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig brynhawn Sadwrn, roedd Cymry hefyd yn dilyn y gêm yn Seland Newydd.
'Well done bois!'
O Lanelli yn wreiddiol, mae Dr Dylan James wedi bod yn byw ac yn gweithio fel llawfeddyg yn ninas Christchurch ers 1999, ac er bod y gêm ymlaen am 03:00 yno, fe wyliodd y gêm dair gwaith.
"Wedi mwynhau gwatcho'r gêm tair gwaith gyda lot o ffrindiau Kiwi fi, a chwarae teg, maen nhw gyd wedi bod yn ostyngedig iawn a gweud, 'We couldn't have lost to a better side'," meddai wrth Newyddion S4C.
"Does dim neb gyda esboniad pam maen nhw wedi colli, dim ond i 'weud bod e'n le arbennig i chwarae a gwrando ar canu a'r sŵn, a jyst pob un, pob Cymro fi 'di cwrdd â heddiw wedi gweud 'joien nhw wedi bod draw 'na'."
Ychwanegodd nad yw'r dathliadau drosodd eto chwaith.
"Fi'n browd i fod yn Cymro draw yn Seland Newydd, a rwy'n mynd i enjoio'r wythnos 'ma, falle yn gwisgo'r crys hyn bob dydd. Bydd e'n boenus i bobl, rwy'n siŵr," meddai.
"Ond rwy'n mynd i enjoio fe. Well done, bois!"
'Emosiynol iawn'
Mae Dr Rhian Roberts yn gweithio fel meddyg teulu yn Christchurch, ac er na wnaeth hi wylio'r gêm yn ystod oriau mân y bore, dywedodd mai'r "prif gamp i mi bore 'ma oedd trio anwybyddu fy ffôn o'r llwythi o negeseuon oedd wedi dod gan ffrindiau a theulu dros nos.
"Ma' rywun o hyd yn teimlo'n emosiynol iawn wrth wylio, Cymru'n chwarae, a ninnau'n byw mor bell i ffwrdd, ac felly pan welais i'r wal o niwl coch yn ystod yr Haka, o'n i yn emosiynol tu hwnt ac wrth gwrs, felly wedyn dros yr wythdeg munud nesaf."
Ychwanegodd: "Ond chwarae teg i'r Kiwis, mi oedden nhw yn cydnabod mai Cymru oedd yn haeddu y fuddugoliaeth heddiw, a dwi'n meddwl bod 'na barch arbennig rhwng y ddwy wlad.
"Y teimlad ydy os ydyn nhw'n gorfod colli yn erbyn rhywun o Hemisffer y Gogledd, bod Cymru yn oce i golli yn eu herbyn nhw."
Bydd y gêm yn cael ei dangos eto ar S4C nos Sul am 20:00.
