Galwadau ar y llywodraeth i addasu oedran cydsynio wedi achos Russell Brand
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud y bydd yn ystyried galwadau i newid yr oedran cydsynio, ar ôl i ddynes roi'r gorau i'w hawl i fod yn ddienw er mwyn gallu honni'n gyhoeddus ei bod wedi cael ei threisio gan Russell Brand pan oedd yn ddisgybl ysgol 16 oed.
Mae Mia Latter, sydd bellach yn 37 oed, yn honni iddi gael ei chamdrin gan y digrifwr, sydd bellach yn y carchar, pan oedd hi'n ei harddegau ac yntau'n 30 oed.
Mewn cyfweliad gyda The Sunday Times, galwodd am gyflwyno oedran cydsynio graddedig.
Byddai hyn yn gwneud perthynas rhwng oedolion a phobl ifanc 16 ac 17 oed yn anghyfreithlon.
Dywedodd Louise Haigh, sy'n gweithredu fel y dirprwy brif weinidog, wrth y papur newydd fod "stori dorcalonnus Mia" yn golygu bod newid yn y gyfraith yn haeddu cael ei ystyried.
Dywedodd: "Mae angen i ni wrando ar Mia a dioddefwyr eraill fel hi sydd wedi mynd trwy'r profiadau hyn; mae'n hynod bwysig, fel deddfwyr, fod eu profiadau wrth wraidd yr hyn rydym yn ei ystyried.
"Byddai newid yr oedran cydsynio yn gam enfawr, yn sicr, ond mae'n haeddu ystyriaeth a chraffu priodol.
"Gallaf ddeall yn iawn pam ei bod yn galw am hyn."
Oedran
Yn ôl y gyfraith, mae oedolion o unrhyw oedran yn gallu cael rhyw yn gyfreithlon â phobl ifanc 16 ac 17 oed.
Dywedodd Ms Latter wrth y papur newydd: “Mae’n syfrdanu fi, dro ar ôl tro, pan fydd newyddion amdano’n codi eto, mai’r hyn sy’n cael ei grybwyll bob amser yw’r berthynas â pherson 16 oed.
“Nid dyna'r rhan waethaf oll. Ond pam mai dyna’r peth y mae pawb yn canolbwyntio arno? Rwy’n credu ein bod ni i gyd yn cytuno, fwy neu lai, na ddylai oedolion gael cael perthnasoedd rhywiol â phlant - hynny yw, â rhywun o dan 18 oed.
"Dydy hynny ddim yn ymddangos fel cam mawr iawn i’w gymryd.”
Cafodd yr enw ffug ‘Alice’ ei ddefnyddio i gyfeirio at Ms Latter mewn adroddiadau blaenorol gan The Sunday Times, The Times, a rhaglen ddogfen Dispatches ar Channel 4.
Roedd Ms Latter yn 16 oed pan y gwnaeth hi gyfarfod Brand am y tro cyntaf yn Leicester Square, yng nghanol Llundain, tra'r oedd hi ar ei ffordd adref ar ôl bod yn siopa.
Cymerodd Brand ei rhif ffôn cyn anfon neges ati yn ddiweddarach, a gofyn a oedd hi eisiau mynd allan am fwyd.
Dywedodd wrth y papur newydd fod Brand, oedd yn gweithio i MTV ar y pryd, wedi gofyn iddi gwrdd ag ef, er iddi ddatgelu ei hoedran wrtho.
Mae Ms Latter yn honni bod Brand wedi ei threisio tua diwedd eu perthynas oedd wedi para am dri mis.
Dim erlyniad
Siaradodd Ms Latter â’r heddlu ar ôl y rhaglen ddogfen, ond penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â chynnwys ei thystiolaeth yn yr achos yn erbyn Brand yn Llys y Goron Southwark.
Dywedodd: “Roedden nhw [yr heddlu] eisiau i mi fod yn rhan o achos dilynol, ond fe ddywedon nhw fod y penderfyniad wedi’i wneud [i beidio â’i chynnwys yn yr achos llys cyntaf] ar ôl iddo wneud y cyfweliadau â Megyn Kelly a Piers Morgan…
"Fe ddywedwyd wrthyf na fyddwn i’n rhan o’r achos llys ym mis Hydref oherwydd… doedden nhw ddim eisiau iddo droi’n ‘sioe Alice’ - ‘Alice’ oedd y ffugenw a ddefnyddiwyd amdanaf yn yr erthygl.
"Roeddwn i wedi fy chwalu'n llwyr oherwydd hynny.”
Podlediad
Mewn cyfweliad â’r cyflwynydd podlediad Megyn Kelly yn gynharach eleni, dywedodd Russell Brand mai 16 oed yw oed cydsynio yn y DU, a’i fod wedi cael rhyw gyda pherson 16 oed pan oedd ef ei hun yn 30 oed.
Yn ôl adroddiadau, mae Ms Latter wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen â’r broses droseddol, er mwyn iddi allu canolbwyntio ar ei hymgyrch.
Dywedodd wrth y papur newydd: “Dwi ddim yn gwybod a oes gen i’r gallu i roi blynyddoedd pellach o fy mywyd i hyn, a chael fy meddwl yn llawn o’r troseddau erchyll hyn.”
Cafodd ei honiad ei adrodd wrth Heddlu'r Met, a dywedodd yr heddlu fod yr ymchwiliad i’r honiad o dreisio yn parhau.
Dywedodd llefarydd ar ran y Met: “Dechreuodd swyddogion ymchwiliad ym mis Ionawr 2026 ar ôl derbyn honiad o dreisio.
“Gofynnodd ditectifs am gyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron i benderfynu ar y ffordd orau i symud ymlaen, a chynghorwyd y swyddogion bod angen rhagor o wybodaeth cyn y gellid gwneud penderfyniad am gyhuddo.
“Mae’r ymchwiliad hwn yn parhau. Rydym yn deall bod yr oedi wedi bod yn drallodus i’r dioddefwr sydd wedi goroesi. Ond, ein ffocws fu cyflwyno’r dystiolaeth orau bosib.”
