'Anhygoel!': Gwleidyddion ac enwogion yn dathlu buddugoliaeth Cymru dros y Crysau Duon
Mae gwleidyddion a sêr enwog Cymru wedi rhannu negeseuon yn dathlu buddugoliaeth hanesyddol Cymru dros Seland Newydd yng Nghaerdydd b'nawn Sadwrn.
Daeth Cymru â 73 mlynedd o siom i ben drwy daflu disgwyliadau rygbi’r byd o’r neilltu ac ennill gêm epig ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd o 35-28 yn Stadiwm Principality.
Dywedodd Rhun ap Iorwerth, Prif Weinidog Cymru: “Llongyfarchiadau i rygbi Cymru ar y fuddugoliaeth hanesyddol yn erbyn Seland Newydd! Eiliad fawr i rygbi Cymru!
“Ar ôl 73 mlynedd, mae hon yn eiliad a fydd yn aros yn hir yn hanes chwaraeon Cymru.
“Camp anhygoel sy’n dangos yr angerdd a’r balchder sy’n gwneud Cymru mor arbennig.”
Cyhoeddodd seren Gavin & Stacey, Ruth Jones, fideo ar Instagram yn dangos ei hymateb i fuddugoliaeth hanesyddol Cymru.
“O, Dduw mawr! Mae Cymru newydd guro’r Crysau Duon,” meddai’r awdures a’r actores.
“Fe ddywedai o eto - mae Cymru newydd guro’r Crysau Duon! Mae’n anhygoel; dwi ar ben y byd!
“Dyma’r newyddion gorau, gorau, gorau, gorau oll. O, Dduw mawr - Cymru, rygbi Cymru - rydych chi’n wych! Dwi’n eich caru chi, a dwi mor, mor falch ohonoch chi.”
Dywedodd Stephen Kinnock, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ei fod wedi llwyddo i wylio 20 munud olaf y gêm, gan ei fod wedi bod yn siarad yng nghynhadledd Llafur Cymru yn Llandudno.
“Ar ôl 73 mlynedd, rydym o’r diwedd wedi curo’r Crysau Duon! Prin y gallaf gredu’r hyn rwyf newydd ei weld,” meddai.
“Anhygoel!”
Roedd Seland Newydd wedi ennill 34 gêm yn olynol yn erbyn Cymru ers cael eu trechu ganddynt ym 1953, ond llwyddodd tîm Steve Tandy i gyflawni camp ryfeddol yn y ffordd mwyaf anhygoel, ar ôl gêm gofiadwy yng Nghaerdydd.
Prin y gallai’r dorf o 55,152 gredu’r hyn oedd newydd ddigwydd; gyda golygfeydd anhygoel o ddathlu brwd ar ddiwedd y gêm.
Roedd y chwaraewyr yn eu dagrau wrth i Gymru ddechrau sylweddoli mai dyma, o bosib, yw'r fuddugoliaeth enwocaf yn eu hanes o 145 mlynedd o gemau Prawf.
Dywedodd Laura Anne Jones, Aelod o’r Senedd dros Sir Fynwy a Thorfaen a dirprwy arweinydd Reform UK Cymru: “Hanes wedi’i wneud!
“Am y tro cyntaf ers 1953, mae Cymru wedi curo’r Crysau Duon!
“Am berfformiad. Angerdd, penderfyniad a balchder Cymreig ym mhob tacl.
"Llongyfarchiadau mawr i’r chwaraewyr a’r tîm hyfforddi ar fuddugoliaeth y byddwn yn ei chofio am genedlaethau.
“Mwynhewch bob eiliad o’r un yma, Gymru. Rydych chi wedi gwneud y genedl gyfan yn falch!”