Andy Burnham yn addo cydweithio 'law yn llaw' gyda Llafur Cymru

burnham.jpg

Mae Andy Burnham wedi addo cydweithio "law yn llaw" gyda Llafur Cymru i symud ymlaen o ganlyniadau trychinebus y blaid yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Fe wnaeth Prif Weinidog y DU ddweud y byddai'n osgoi "creu problemau" neu "fynd yn erbyn" beth y mae arweinydd Llafur Cymru Ken Skates eisiau ei wireddu wrth iddo annerch Cynhadledd Llafur Cymru ddydd Sadwrn.

Ond fe rybuddiodd fod yn rhaid i'r blaid "wrando" yn dilyn y canlyniad ym mis Mai eleni. 

Roedd Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, ac wedi bod yn brif blaid y wlad am dros ganrif.

Ond yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, disgynnodd Llafur i'r trydydd safle, ymhell y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK.

Fe wnaeth Plaid Cymru greu hanes drwy ennill yr etholiad, gan olygu ei bod yn llywodraethu am y tro cyntaf erioed.

Yn sgil y canlyniad, collodd y Farwnes Eluned Morgan ei sedd ac ymddiswyddodd fel arweinydd Llafur Cymru.

Cafodd Ken Skates ei benodi'n olynydd iddi yn ddiweddarach.

Image
Ken Skates
Ken Skates, arweinydd Llafur Cymru

Wrth siarad yn ystod y gynhadledd yn Llandudno ddydd Sadwrn, dywedodd Andy Burnham: "Y cam nesaf wrth gwrs yw cael arweinydd Llafur Cymru fel prif weinidog y genedl wych yma a Ken, mae'r ddau ohonom yn gwbl gytûn o ran y dasg honno.

"Felly am y tro cyntaf yn ei hanes, nid Llafur sy'n rhedeg Llywodraeth Cymru, ac mae hynny yn beth anodd i ni dderbyn. 

"Ond wrth i ni dderbyn hyn, a dod yn ôl yn gryfach, fe wnawn ni ddod yn ôl yn gryfach gyda gweledigaeth gryfach ar gyfer Cymru o fewn y Deyrnas Unedig sy'n fwy teg."

Roedd Mr Burnham yn faer Manceinion Fwyaf ym mis Mai eleni, ac fe ddywedodd ddydd Sadwrn: "Nid oes modd edrych i ffwrdd. Mae'n rhaid i chi wrando ac ymrwymo i wneud pethau yn wahanol. Rwyf wastad wedi bod yn un sydd yn dweud bod angen gwneud gwleidyddiaeth yn wahanol."

Dywedodd Mr Burnham na ddylai datganoli pwerau o San Steffan ddod i ben yn y Senedd, gan ddweud yn hytrach y dylai pwerau gael eu trosglwyddo ymhellach i ranbarthau Cymru.

Ychwanegodd fod yn rhaid i’r blaid weithio tuag at Gymru sydd â “strydoedd mawr wedi’u hadfywio a chymunedau wedi’u grymuso, a swyddi da wedi’u gwasgaru’n gyfartal ar draws y wlad.

"Fe wnaeth cenhedlaeth o weithwyr Cymru greu cyfoeth a gyrhaeddodd ymhell y tu hwnt i'r llefydd yr oedden nhw'n ei alw yn adref. Ond fe wnaeth y diwydiannau hynny ddirywio pan oedd arian i’w wneud mewn mannau eraill.

"Fe gawson nhw eu hanghofio ac mae hynny yn rhywbeth sydd heb fy ngadael i. Rwyf yn benderfynol o newid hynny fel Prif Weinidog."

'Angen cyrraedd pob cod post'

Mae'r adolygiad o golled etholiadol Llafur ym mis Mai wedi'i gynnal gan gwmni ymgynghori Public First. 

Bydd yr academydd blaenllaw, yr Athro Anand Menon, yn cyflwyno'r canfyddiadau yn y gynhadledd.

Dywedodd Mr Skates: “Roedd etholiadau'r Senedd yn drobwynt i Lafur Cymru.

“Roedd y canlyniadau'n drychinebus i'r blaid, ac roedd hynny'n amlwg i bawb. 

“Ond roedd angen asesu'n wrthrychol y rhesymau dros ein colledion, ac roedd nifer o resymau dros hynny.

“Comisiynodd Llafur Cymru yr adolygiad annibynnol hwn oherwydd bod angen cyfrif gonest arnom o'r rhesymau dros ein colled a'r hyn sydd angen newid."

Ychwanegodd: “Mae’n anodd wynebu’r canfyddiadau, ac rydym yn eu cymryd o ddifrif.

“Roedd pobl yn teimlo ein bod wedi rhoi'r gorau i wrando, nad oedd gwasanaethau cyhoeddus yn gwella'n ddigon cyflym a'n bod wedi cymryd eu cefnogaeth yn ganiataol.

“Ein tasg yw ennill ymddiriedaeth pobl unwaith eto. Byddwn yn gwrando'n ofalus, yn datblygu cynnig clir i Gymru ac yn dangos drwy ein gweithredoedd ein bod wedi dysgu gwersi.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.