Trafferthion posib i deithwyr y DU wedi i awyrennau gael eu hatal yn America

Maes awyr

Mae rhai teithwyr yn y DU yn wynebu trafferthion fore dydd Sadwrn wedi i broblemau gyda systemau Rheoli Traffig Awyr atal hediadau ar draws yr Unol Daleithiau. 

Fe wnaeth Gweinyddiaeth Hedfan Ffederal yr Unol Daleithiau (FAA) atal pob awyren ledled y wlad rhag hedfan am sawl awr ddydd Gwener yn sgil "amgylchiadau eithriadol a rhesymau diogelwch." 

Roedd hyn yn dilyn problemau cyfathrebu mewn canolfannau rheoli traffig awyr rhanbarthol. 

Mae gwefan maes awyr Heathrow yn Llundain yn nodi fod hediad 08:20 o Dallas Fort Worth wedi cael ei ganslo yn ogystal â hediad 09:55 i Charlotte ac un 10:00 i Houston. 

Cafodd awyren 10:35 British Airways i Efrog Newydd hefyd ei chanslo, tra bod nifer o hediadau eraill i'r Unol Daleithiau wedi'u rhestru fel rhai sydd wedi'u gohirio.

Wrth ymateb ar y cyfryngau cymdeithasol, fe wnaeth British Airways ymddiheuro am oedi a chanslo hediadau posib. 

Fe wnaeth hefyd argymell i deithwyr i deithio i'r maes awyr fel yr arfer ac i gyrraedd ar gyfer yr amser gadael gwreiddiol oni bai eu bod nhw wedi clywed yn wahanol. 

Dywedodd llefarydd ar ran British Airways: "Yn dilyn y broblem gyda rheoli traffig awyr yn yr Unol Daleithiau, mae ein hediadau yn gweithredu fel yr arfer. 

"Tra bod y mater yma allan o'n rheolaeth ni, hoffem ddiolch i'n cwsmeriaid am eu cydweithrediad, a'n cydweithwyr am eu cefnogi i leihau unrhyw aflonyddwch."

'Dim oedi sylweddol'

Ychwanegodd llefarydd ar ran Maes Awyr Manceinion nad oedd disgwyl unrhyw oedi "sylweddol" ddydd Sadwrn. 

Y gred yw na fydd y sefyllfa yn amharu yn sylwedol chwaith ar faes awyr Gatwick yn Llundain.

Yn hwyr ddydd Gwener, dywedodd Eurocontrol fod pob hediad i'r Unol Daleithiau wedi ei ganslo yn sgil yr aflonyddwch. 

Mae gan Eurocontrol 42 aelod, gan gynnwys gwledydd y DU, Iwerddon, yr Almaen a Ffrainc, yn ogystal â dwy wlad sydd â chytundeb â’r sefydliad, sef Israel a Moroco.

Dyma'r ail waith yn unig i hediadau gael eu hatal ar draws yr Unol Daleithiau ers ymosodiadau terfysgol 9 Medi 2001. 

Cafodd hediadau eu hatal gan yr FAA ym mis Ionawr 2023 oherwydd problem gyda'r system. 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.