Dedfryd o 25 mlynedd i ddyn hufen iâ o'r Rhondda am ymosodiadau 'ffiaidd' ar blant

Ceri

Rhybudd: Gall cynnwys yr erthygl hon beri gofid

Mae dyn o'r Rhondda wedi cael ei garcharu am ddegawdau am droseddau rhyw hanesyddol, gan gynnwys treisio dau ddioddefwr oedd o dan 16 oed.

Cafodd Ceri Williams, 71 oed, o Ferndale, ei ddedfrydu yn Llys y Goron Abertawe yn gynharach yr wythnos hon.

Cyflawnodd Williams rai o'i droseddau yn ei fan hufen iâ - gan orfodi ei ddioddefwr ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau rhywiol tra roedd ar ei rownd.

Roedd wedi ei gael yn euog ar ddiwedd ei achos llys o 15 cyhuddiad yn ymwneud â threisio plentyn, ymddygiad anweddus gyda phlentyn, ymosodiad anweddus ar blentyn, a chymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol gyda phlentyn.

Roedd un o'i ddioddefwyr wedi dioddef ymgyrch o gamdriniaeth a barhaodd am flynyddoedd.

Cafodd hyn effaith ddinistriol ar yr unigolyn flynyddoedd yn ddiweddarach.

Deffro'n sgrechian

Mewn datganiad a ddarllenwyd yn y llys, dywedodd un dioddefwr ei fod wedi colli'r gallu i ymddiried mewn pobl, ei fod yn dioddef atgofion byw o'r digwyddiadau, ac yn deffro gan sgrechian yng nghanol y nos.

Disgrifiodd un ddioddefwraig sut yr oedd hi'n teimlo'n hollol ddi-deimlad ers y profiad gan arwain at gyfnodau o rwbio ei chroen nes iddo waedu, ac ymolchi mewn hylif diheintio 'bleach'.

Cafodd Williams ddedfryd o 25 mlynedd, gan ei fod yn droseddwr sy'n achosi pryder penodol i'r awdurdodau.

Bydd hyn yn cynnwys 24 mlynedd dan glo, ac yna cyfnod ar drwydded o flwyddyn. 

Fe fydd yn cael gwneud cais am barôl ar ddiwedd dwy ran o dair o'r rhan o'r ddedfryd sy'n ymwneud â'r ddalfa, sy'n golygu y bydd yn 87 oed cyn y bydd modd ystyried ei ryddhau.

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Ceri Davies o Heddlu De Cymru: “Fe ddioddefodd dioddefwyr Ceri Williams y troseddau mwyaf erchyll dros nifer o flynyddoedd. 

"O ganlyniad, mae wedi gadael creithiau meddyliol arnynt y maen nhw yn parhau i ymdopi gyda nhw hyd heddiw. 

"Mae’r dioddefwyr yn yr achos hwn wedi dangos dewrder aruthrol a chanmoladwy i sicrhau bod yr un oedd wedi eu camdrin wedi ateb am ei droseddau. 

"Roedd adeg pan oedd Ceri Williams yn credu ei fod wedi dianc rhag cosb am ei droseddau ffiaidd; ond diolch i’w dewrder, mae bellach yn y carchar am gyfnod hir iawn - a dyna lle dylai fod."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.