Dynes o Wynedd yn galw am fwy o ymchwil ar ôl colli tri aelod o’i theulu i diwmorau ar yr ymennydd

William ac Eleanor Williams gyda Iola, Helen ac Elvin
William ac Eleanor Williams gyda'u plant Iola, Helen ac Elvin

Mae dynes o Wynedd sydd wedi colli ei thad, ei mam a’i chwaer i diwmorau ar yr ymennydd yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynyddu’r buddsoddiad mewn ymchwil i’r clefyd.

Mae Iola Williams, 68 oed, o Lanfrothen, wedi colli tri aelod agos o’i theulu o ganlyniad i diwmorau ar yr ymennydd.

Bu farw ei thad, William, a’i chwaer fach, Helen, o glioblastoma - math ymosodol o ganser yr ymennydd - o fewn wythnosau i gael diagnosis.

Yn ôl Brain Tumour Research, mae tiwmorau ar yr ymennydd yn achosi mwy o farwolaethau o ganser ymhlith pobl o dan 40 oed yng Nghymru nag unrhyw fath arall o ganser.

Mae’r elusen hefyd yn dweud mai dim ond 1% o’r gwariant cenedlaethol ar ymchwil i ganser rhwng 2002 a 2021 a aeth tuag at ymchwilio i diwmorau ar yr ymennydd.

Goroesi

Mae’r gyfradd goroesi am bum mlynedd neu fwy ar ôl diagnosis yng Nghymru yn 17.2%, o’i chymharu â 61.5% ar gyfer pob math o ganser.

Mae Iola yn cefnogi ymgyrch Brain Tumour Research, sy’n galw am fuddsoddi o leiaf £45 miliwn y flwyddyn mewn ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd ledled y DU.

Mae hi hefyd yn cefnogi maniffesto’r elusen ar gyfer Cymru, sy’n galw ar Lywodraeth Cymru i wella mynediad cleifion at dreialon clinigol a chynyddu’r buddsoddiad mewn ymchwil, er mwyn gwella triniaethau a chyfleoedd goroesi.

Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn datblygu Strategaeth Canser Genedlaethol 10 mlynedd, sy’n cynnwys cryfhau ymchwil a gwella mynediad at dreialon clinigol.

Mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod yn addo rhoi mwy o sylw i ganser yr ymennydd drwy fuddsoddi dros £25 miliwn mewn ymchwil.

'Angen mynd i'r afael ag ef o ddifrif'

Dywedodd Iola, sy’n gyn-nyrs seiciatrig: “Fel rhywun sydd wedi colli tri aelod o’i theulu i diwmorau ar yr ymennydd, mae’n anodd iawn gwybod nad oes digon o arian gan y Llywodraeth.

“Does dim gwellhad ac nid yw’r triniaethau wedi newid rhyw lawer ers dros 20 mlynedd.

“Mae’n rhwystredig ond hefyd yn peri cryn bryder. Beth os bydd yn digwydd eto yn fy nheulu, gan wybod nad oes gwellhad?

“Mae wastad yng nghefn fy meddwl. A all y Llywodraeth fy sicrhau na fydd hyn yn digwydd i mi nac i unrhyw un o’m perthnasau? Neu, os bydd, a allant fy sicrhau bod gwellhad ar gael? Na, ni allant.

“Mae angen i’r Llywodraeth gynyddu’r arian ar gyfer ymchwil i’r clefyd hwn, sy’n dinistrio cymaint o fywydau. 

“Mae angen mynd i’r afael ag ef o ddifrif.”

Image
Iola Williams
Iola Williams

Cafodd tad Iola, William, a oedd yn cael ei adnabod fel Billy, ddiagnosis o glioblastoma ym mis Awst 2004 ar ôl cael trawiad wrth arddio.

Er iddo gael cemotherapi a radiotherapi, bu farw William, a oedd yn 71 oed, bedair wythnos yn ddiweddarach.

Bu farw ei mam, Eleanor, a oedd yn 75 oed, ym mis Awst 2014, flwyddyn ar ôl cael diagnosis o diwmor ar yr ymennydd.

Cafodd ei chwaer Helen ddiagnosis o glioblastoma ar ei phen-blwydd yn 56 oed ym mis Ionawr 2024. Bu farw 12 wythnos yn ddiweddarach.

Dywedodd Iola fod y salwch wedi cael “effaith ddinistriol” ar y teulu cyfan.

“Mae gorfod gwylio eich tad yn diflannu o flaen eich llygaid yn brofiad ofnadwy,” meddai.

“Mae’n rhywbeth na allwch ei esbonio.

“Pan gafodd fy chwaer Helen ddiagnosis o glioblastoma hefyd, roeddwn i’n meddwl ar unwaith y byddai’n mynd drwy’r un profiad â Dad, ond roedd pethau’n hollol wahanol.

Image
Iola a'i chwaer Helen
Iola a'i chwaer Helen yn blant

“Roedd y tiwmor wedi effeithio ar ei chof tymor byr, felly roedd hi’n dal i fynd allan ac o gwmpas, bron heb sylweddoli beth oedd yn digwydd, ac roedd hi’n dal i edrych yn iawn.

“Roeddem yn gallu gofalu amdani gartref am gyfnod, nes i’w ffitiau fynd yn amlach ac yn fwy difrifol. 

“Roedd ei gweld yn mynd drwy hynny’n ofnadwy.”

Dywedodd Dr Karen Noble, cyfarwyddwr polisi ymchwil ac arloesi Brain Tumour Research, fod hanes Iola yn dangos pam fod angen cynyddu’r buddsoddiad.

“Mae angen i’r Llywodraeth gefnogi cynnydd yn y buddsoddiad cenedlaethol mewn ymchwil i diwmorau ar yr ymennydd i o leiaf £45 miliwn y flwyddyn,” meddai.

“Byddai hynny’n helpu i gau’r bwlch rhwng y lefelau ariannu ar gyfer tiwmorau ar yr ymennydd a mathau eraill o ganser, fel lewcemia, lle mae buddsoddiad cyson dros y degawdau diwethaf wedi cael effaith sylweddol ar gyfraddau goroesi.”

Mae Brain Tumour Research yn ariannu ymchwil mewn canolfannau arbenigol ledled y DU ac yn ymgyrchu dros fwy o fuddsoddiad er mwyn datblygu triniaethau newydd a dod o hyd i wellhad.

Strategaeth canser genedlaethol i Gymru

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Mae'n ddrwg gennym glywed am golled Iola ac rydym yn cydnabod pa mor bwysig yw hyn i bawb sydd wedi cael eu heffeithio gan ganser.

“Rydym yn datblygu Strategaeth Canser Genedlaethol Cymru i drawsnewid y ffordd y mae'r gwasanaeth iechyd yn atal, diagnosio a thrin y set hon o gyflyrau - gan gynnwys canser yr ymennydd.

“Bydd y Strategaeth 10 mlynedd yn nodi dyfodol uchelgeisiol ar gyfer gofal canser yng Nghymru ac yn rhoi'r eglurder sydd ei angen ar y Gwasanaeth Iechyd i ganolbwyntio ar y set hon o gyflyrau a darparu gwell gwasanaethau i bobl Cymru. 

“Mae hyn yn cynnwys cryfhau ymchwil, datblygu ac arloesi, a gwella mynediad at dreialon clinigol. Ers 2015, mae mwy na 200 o gleifion yng Nghymru wedi cael eu recriwtio mewn bron i 20 o astudiaethau ymchwil tiwmor yr ymennydd.”

Angen mwy o sylw

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU: “Rydym yn diolch i Iola am bopeth y mae’n ei wneud i godi ymwybyddiaeth, ond mae’n llygad ei lle wrth ddweud nad yw canser yr ymennydd wedi cael y sylw y mae’n ei haeddu ers gormod o amser.

“Mae’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Iechyd yn gweithio i newid hynny: drwy gomisiynu adolygiad cyflym gan arbenigwyr canser yr ymennydd; datblygu cynllun gweithredu cenedlaethol newydd; a recriwtio arweinydd clinigol cenedlaethol i sbarduno newid yn y maes hwn."

Ychwanegodd y llefarydd: “Yn ogystal, rydym yn buddsoddi dros £25 miliwn yn y Consortiwm Ymchwil Tiwmorau’r Ymennydd er mwyn trawsnewid canlyniadau i oedolion a phlant sy’n byw gyda thiwmorau ar yr ymennydd, ac yn gweithio gyda Cancer Research UK i gyd-ariannu Canolfannau Rhagoriaeth Tiwmorau’r Ymennydd.

“Gyda’n gilydd, byddwn yn helpu i droi datblygiadau gwyddonol arloesol yn ganlyniadau gwell i gleifion, ac yn sicrhau y gall pawb y mae canser yr ymennydd yn effeithio arnynt elwa ar yr ymchwil newydd a’r triniaethau newydd a fydd yn achub bywydau yn y blynyddoedd i ddod.”

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.