Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i adael ei swydd

Carol Shillabeer
Carol Shillabeer

Fe fydd Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Carol Shillabeer, yn gadael ei swydd ar ddechrau 2027.

Mae wedi cael ei phenodi'n Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria, yng ngogledd-orllewin Lloegr.

Ymunodd Ms Shillabeer â Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ym mis Mai 2023 fel Prif Weithredwr Dros Dro, yn ystod cyfnod o heriau sylweddol i'r sefydliad.

Roedd hynny'n fuan ar ôl i'r bwrdd iechyd gael ei roi o dan Fesurau Arbennig.

Dywedodd Carol Shillabeer ei bod yn "fraint fawr" gwasanaethu fel Prif Weithredwr Betsi Cadwaladr.

"Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae cydweithwyr ledled y sefydliad wedi'i gyflawni yn ystod cyfnod eithriadol o heriol," meddai.

"Rwyf wedi gweld drosof fy hun ymrwymiad ein staff i gleifion, teuluoedd a chymunedau ledled Gogledd Cymru.

"Mae'r cyfle i ddod yn Brif Weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Swydd Gaerhirfryn a De Cumbria yn gam nesaf cyffrous i mi yn broffesiynol, ond ni fydd gadael Betsi Cadwaladr a'r nifer o bobl yr wyf wedi gweithio ochr yn ochr â nhw yn hawdd.
 
"Rwy’n ddiolchgar i’r Cadeirydd, y Bwrdd, y Tîm Gweithredol a chydweithwyr ar draws y sefydliad am eu cefnogaeth, eu her adeiladol a’u hymrwymiad dros y tair blynedd a hanner diwethaf."

Dywedodd Cadeirydd y bwrdd iechyd, Dyfed Edwards, ei fod yn dymuno'n dda i Ms Shillabeer yn ei swydd newydd.

"Ymunodd Carol â Betsi Cadwaladr ar adeg hynod o heriol yn hanes y sefydliad ac mae wedi rhoi arweinyddiaeth ymrwymedig a chadarn dros y tair blynedd a hanner diwethaf," meddai.

"Mae llawer o waith eto i'w wneud, ac rydym yn glir iawn bod ein taith wella yn parhau."

Bydd Ms Shillabeer yn ymuno â'i sefydliad newydd yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ac yn parhau yn ei swydd bresennol tan hynny.

Ychwanegodd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr y bydd yn cadarnhau'r trefniadau arweinyddiaeth dros dro a'r rhai hirdymor maes o law.

Pryderon difrifol

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan Fesurau Arbennig Llywodraeth Cymru ers mis Chwefror 2023.

Cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd ar y pryd, Eluned Morgan, y penderfyniad ar 27 Chwefror 2023, yn dilyn pryderon difrifol am berfformiad, arweinyddiaeth a diwylliant y sefydliad, yn ogystal â'i drefniadau llywodraethu a diogelwch cleifion.

Fel rhan o'r penderfyniad, cytunodd Cadeirydd, Is-gadeirydd ac aelodau annibynnol y bwrdd i gamu o'r neilltu, yn dilyn trafodaethau gyda'r Gweinidog. 

Daeth hynny yn dilyn pryderon am sut roedd y bwrdd iechyd yn cael ei redeg a'r berthynas waith rhwng ei uwch-arweinwyr.

Er bod cynnydd wedi'i wneud o ran cryfhau trefniadau rheoli a llywodraethu, mae heriau sylweddol yn parhau, gan gynnwys amseroedd aros hir am driniaethau wedi'u cynllunio, perfformiad gwasanaethau brys a phwysau ariannol.

Yn ôl y ffigyrau diweddaraf a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, mae Betsi Cadwaladr yn parhau i fod ymhlith y byrddau iechyd â'r perfformiad gwaethaf o ran amseroedd aros mewn adrannau brys a thriniaethau wedi'u cynllunio.

Mae'r sefydliad hefyd yn destun adolygiad annibynnol o'i arweinyddiaeth, ei ddiwylliant sefydliadol, ei strategaeth a'i drefniadau llywodraethu ac atebolrwydd ar hyn o bryd.

Mae'r adolygiad yn cael ei gadeirio gan Dr Kathy McLean, ac mae panel o arweinwyr profiadol y GIG yn ei gynnal.

Dywedodd y Gweinidog Cabinet dros Iechyd a Gofal, Mabon ap Gwynfor, yn y Senedd ddydd Mercher ei fod yn disgwyl cyhoeddi canfyddiadau'r adolygiad cyn bo hir. 

Ychwanegodd y byddai'n gwneud datganiad pellach yn y Senedd ar 24 Tachwedd, ar sail canfyddiadau'r adolygiad.

"Byddwn yn gwneud penderfyniadau ar y camau nesaf ar gyfer Betsi Cadwaladr yn dilyn hynny," meddai ar y pryd.

Mae Betsi Cadwaladr yn gwasanaethu tua 697,000 o bobl ar draws gogledd Cymru.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.