Owain Wyn Evans yn cwblhau her feicio ar ôl codi dros £3 miliwn i Blant Mewn Angen

Owain Wyn Evans yn cwblhau her feicio ar ôl codi dros £3 miliwn i Blant Mewn Angen

Mae'r darlledwr Owain Wyn Evans wedi cwblhau ei her feicio ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig, gan godi dros £3.3 miliwn ar gyfer Plant Mewn Angen.

Fe gyrhaeddodd y cyflwynydd o Rydaman y llinell derfyn y tu allan i'r Sgwâr Canolog yng Nghaerdydd ddydd Gwener, ar ôl beicio bron i 400 milltir drwy'r Alban, Gogledd Iwerddon, Lloegr a Chymru mewn pum niwrnod.

Fe gafodd groeso mawr gan ei deulu, ei ffrindiau a'i gefnogwyr wrth iddo groesi'r llinell derfyn.

Roedd yn foment emosiynol wrth iddo gofleidio ei fam ar ôl dod oddi ar ei feic, gyda'i rieni yno i'w groesawu.

Roedd ei ŵr, Arran Rees, hefyd yn aros amdano, ac fe wnaeth y ddau gofleidio a chusanu ar ddiwedd yr her.

Dyma'r pellter hiraf i gael ei gyflawni fel rhan o her codi arian Radio 2 y BBC.

Neges gan Dywysoges Cymru

Fore Gwener, fe gafodd Owain neges arbennig gan Dywysoges Cymru, Catherine, oedd wedi recordio neges o gefnogaeth iddo yn Gymraeg.

'Bore da, Owain. Mae'n Catherine. Rydych chi'n gwneud mor dda! Daliwch ati! Rwy'n dymuno'r gorau i chi!' meddai'r Dywysoges.

Roedd Owain wedi synnu wrth glywed y neges, gan ddweud bod ei hynganiad Cymraeg yn 'berffaith'.

'Mae hynny'n anhygoel. Mae'n wych, Sara. Diolch, Eich Uchelder,' meddai wrth Sara Cox ar Radio 2.

Fe gafodd Owain neges hefyd gan ddrymiwr y band Queen, Roger Taylor, oedd yn ei annog i ddal ati ar ddiwrnod olaf yr her.

'Fel cyd-ddrymiwr, rwy'n gwybod y byddi di'n deall hyn: y gân olaf yw'r un sy'n aros gyda phawb, yr un mae'r dorf yn mynd adref â hi ac yn ei chofio,' meddai Taylor.

Image
bbc
Ar ddechrau'i daith o Blaenavon fore Gwener

'Felly, un diwrnod arall, Owain, ac un gân arall. Rwyt ti'n gwneud mor dda. Dal ati.'

Fe orffennodd ei neges drwy gyfeirio at un o ganeuon enwocaf Queen, Don't Stop Me Now.

Roedd Owain wrth ei fodd ar ôl clywed y neges gan y cerddor.

'Mae e wedi dweud fy enw i!' meddai Owain mewn ymateb.

Y daith i Gaerdydd

Fe ddechreuodd Owain gymal olaf yr her ym Mlaenafon fore Gwener, gan fynd drwy Ystrad Mynach a Chaerffili cyn gorffen yng nghanol Caerdydd.

Roedd Vernon Kay yn cyflwyno ei raglen Radio 2 o Gaerdydd i nodi diwedd yr her.

Roedd cannoedd o bobl wedi dod allan i gefnogi Owain ar hyd y daith, gan gynnwys torfeydd yn y Trallwng a Thalgarth.

Ddydd Iau, fe deithiodd o'r Trallwng drwy'r Drenewydd, Llandrindod, Llanfair-ym-Muallt, Talgarth a Chrucywel cyn cyrraedd Blaenafon.

Roedd y daith yn cynnwys un o ddringfeydd mwyaf heriol yr wythnos, sef y Tumble ger y Fenni.

Image
Her beicio 4 Cenedl owain

Fe gafodd Owain gyngor gan enillydd y Tour de France, Geraint Thomas, cyn iddo fynd i'r afael â'r ddringfa.

Fe ddaeth cannoedd o bobl i'r Trallwng i'w gefnogi yn ystod yr wythnos, gyda dwy beiriant cloddio yn ffurfio siâp calon i'w groesawu.

Fe gafodd ei wneud yn Arglwydd a Beili Anrhydeddus y Trallwng am y diwrnod gan faer y dref i gydnabod ei ymdrechion.

Dros £3.3 miliwn wedi'i godi

Fe gyrhaeddodd cyfanswm yr arian a godwyd dros £1 miliwn ddydd Mercher, cyn cynyddu i dros £2.9 miliwn erbyn bore Gwener.

Erbyn iddo gwblhau'r her, roedd y cyfanswm wedi codi i dros £3.3 miliwn.

Nid dyma'r tro cyntaf i Owain godi arian ar gyfer Plant Mewn Angen.

Yn 2021, fe gododd dros £3.8 miliwn ar ôl chwarae'r drymiau am 24 awr yn ddi-dor fel rhan o'i her Drumathon.

Fe ddechreuodd Owain ei yrfa ddarlledu ar deledu Cymraeg, gan gyflwyno'r rhaglen newyddion i blant, Ffeil, ar S4C.

Yn ddiweddarach, fe gyflwynodd y tywydd ar BBC Wales Today cyn dechrau cyflwyno rhaglen frecwast cynnar Radio 2 yn 2023.

Bydd rhaglen arbennig am ei daith yn cael ei darlledu ar BBC One ddydd Gwener 20 Tachwedd am 19:30.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.