Cyhuddo ail ddyn wedi digwyddiad yn ymwneud â dryll yn Abertawe
Mae ail ddyn wedi cael ei gyhuddo mewn cysylltiad ag ymchwiliad i ddigwyddiad yn ymwneud â dryll ar Heol Clase, Abertawe, ddydd Gwener, 6 Tachwedd.
Mae David Joyce, 24 oed, o Fôn-y-maen wedi cael ei gyhuddo o affräe (affray) a meddu ar ddryll gyda’r bwriad o beryglu bywyd neu alluogi rhywun arall i wneud hynny. Bydd yn ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ddydd Gwener.
Dywedodd swyddogion arfog Heddlu De Cymru fod car ar Heol Clase, Treforys, wedi cael difrod oedd yn “gyson ag ergyd o ddryll” am 16:14 ar 6 Tachwedd. Cafodd un person fân anafiadau.
Dywedodd yr heddlu ddydd Mercher fod dyn 24 oed a dyn 42 oed wedi cael eu harestio. Roedd dyn 41 oed a bachgen 16 oed wedi cael eu harestio yn gynharach, cyn cael eu rhyddhau ar fechnïaeth.
Fe wnaeth Thomas Gilheaney, 29 oed, ymddangos yn Llys Ynadon Abertawe ar 9 Tachwedd, wedi’i gyhuddo o affräe a meddu ar arf ymosodol. Cafodd ei gadw yn y ddalfa a bydd yn ymddangos yn Llys y Goron Abertawe ym mis Rhagfyr.