Gwasanaeth e-bost Microsoft yn 'agosáu at lefelau arferol' wedi trafferthion byd-eang
Mae Microsoft yn dweud fod ei wasanaeth e-bost yn “nesáu at lefelau arferol” wrth i'r cwmni geisio datrys trafferthion byd-eang sy'n bodoli ers nos Iau.
Dywedodd y cwmni mewn datganiad bnawn Gwener eu bod yn "parhau i weld gwelliannau o ran argaeledd y gwasanaeth; mae ciwiau e-bost wedi lleihau’n sylweddol ac maent yn nesáu at lefelau arferol.
“Gallai rhai defnyddwyr barhau i wynebu problemau achlysurol neu oedi wrth ddosbarthu e-byst, wrth i’r broses adfer barhau.”
Mae cwmnïau, cyrff cyhoeddus, busnesau ac unigolion o bedwar ban byd wedi profi trafferthion ers i'r broblem gael ei chofnodi yn gyntaf nos Iau.
Y sefyllfa yng Nghymru
Mae heddluoedd a'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru ymysg y sefydliadau oedd wedi eu heffeithio wrth i Microsoft geisio datrys y trafferthion technolegol fyd-eang ddydd Gwener.
Roedd gwasanaethau gan gynnwys Teams, Outlook a’r meddalwedd AI Copilot wedi eu heffeithio gan “broblemau cysylltu”.
Dywedodd Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod nhw wedi eu heffeithio gan "broblemau byd-eang gyda Microsoft 365".
"Rydym yn profi rhywfaint o oedi wrth dderbyn ac ymateb i negeseuon e-bost ac ymholiadau ar-lein ar hyn o bryd.
"Fodd bynnag, nid yw’r problemau’n effeithio ar ein gwasanaethau sgrinio. Os oes gennych apwyntiad sgrinio heddiw, dylech fynd iddo fel arfer.
"Os oes gennych unrhyw gwestiynau brys am apwyntiad sydd ar y gweill, cysylltwch â’r tîm perthnasol yn uniongyrchol dros y ffôn."
Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys nad oedden nhw'n gallu derbyn rhai negeseuon fore dydd Gwener:
"Mae’r rhain wedi effeithio ar ein gallu i dderbyn adroddiadau ar-lein drwy’r wefan, yn ogystal â negeseuon drwy gyfeiriad e-bost cyffredinol ein canolfan gyswllt," meddai'r llu mewn datganiad.
Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod nhw hefyd wedi wynebu problemau technolegol wrth dderbyn adroddiadau drwy eu gwefan, ac roedden nhw'n annog pobl i ffonio'r llu yn uniongyrchol.
Llywodraeth Cymru
Roedd Llywodraeth Cymru wedi rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith hefyd.
Dywedodd llefarydd: “Rydym yn monitro’r effaith ar wasanaethau’r llywodraeth ac yn defnyddio trefniadau wrth gefn yn ôl yr angen.”
Dywedodd Microsoft nad digwyddiad seiberddiogelwch oedd wedi achosi’r broblem.
Roedd defnyddwyr mewn 74 o wledydd wedi’u heffeithio.
Dywedodd Microsoft i ddechrau nad oedd eu hymdrechion i ddatrys y broblem wedi “gweithio yn ôl y disgwyl”.
Mae mwy na 430 miliwn o bobl yn defnyddio gwasanaethau Microsoft 365, ac mae’r cewri technoleg OpenAI ac Anthropic wedi adrodd am broblemau o ganlyniad.