Andy Burnham i addo mwy o rym i gymunedau yng Nghymru
Bydd Andy Burnham yn addo mwy o rym i gymunedau yng Nghymru wrth i'r Blaid Lafur geisio ailadeiladu ei chefnogaeth yn dilyn ei chanlyniadau trychinebus yn etholiad y Senedd ym mis Mai.
Bydd Prif Weinidog y DU yn dweud bod angen i'r blaid “wrando” a “myfyrio ar y sefyllfa” wrth iddo annerch Cynhadledd Llafur Cymru ddydd Sadwrn.
Roedd Llafur wedi bod mewn grym yng Nghymru ers sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999, ac wedi bod yn brif blaid y wlad am dros ganrif.
Ond yn etholiadau'r Senedd ym mis Mai, disgynnodd Llafur i'r trydydd safle, ymhell y tu ôl i Blaid Cymru a Reform UK.
Fe wnaeth Plaid Cymru greu hanes drwy ennill yr etholiad, gan olygu ei bod yn llywodraethu am y tro cyntaf erioed.
Yn sgil y canlyniad, collodd y Farwnes Eluned Morgan ei sedd ac ymddiswyddodd fel arweinydd Llafur Cymru.
Cafodd Ken Skates ei benodi'n olynydd iddi yn ddiweddarach.
Yn ystod y gynhadledd yn Llandudno ddydd Sadwrn, mae disgwyl i Mr Skates ymateb i adolygiad o golledion Llafur yn etholiadau'r Senedd, gan gydnabod bod angen ailwampio sylfaenol ar y blaid.
Bydd Mr Burnham yn defnyddio ei araith i amlinellu na ddylai datganoli pwerau o San Steffan ddod i ben yn y Senedd, gan ddweud yn hytrach y dylai pwerau gael eu trosglwyddo ymhellach i ranbarthau Cymru.
Mae disgwyl iddo ddweud: “Mae'n rhaid i ni wrando. Mae'n rhaid i ni fyfyrio ar y sefyllfa. Ac mae'n rhaid i ni ymrwymo i wneud pethau'n wahanol.
“Ond mae'n rhaid i ni fynd ymhellach na hynny hefyd.
“Oherwydd, gadewch i ni fod yn onest, mae gwleidyddion wastad wedi dweud y bydden nhw'n gwrando mwy.
“Ar ôl blynyddoedd o sloganau, areithiau ac addewidion mawr ar ochrau bysiau, mae pobl wedi colli ffydd yn y geiriau hynny. A dydw i ddim yn eu beio.
“Felly, y tro hwn, mae'n rhaid i ni wneud mwy na siarad am roi llais i bobl.
“Mae'n rhaid i ni roi grym go iawn iddyn nhw dros y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.”
'Angen cyrraedd pob cod post'
Bydd Prif Weinidog y DU yn mynd ymlaen i ddweud nad oedd sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru “byth i fod i fod yn ddiwedd ar y daith” .
“Doedd datganoli erioed yn ymwneud â symud grym o San Steffan i Gaerdydd yn unig,” meddai.
“Y bwriad erioed oedd parhau i drosglwyddo pwerau ymhellach i lawr ac allan, nes eu bod yn cyrraedd pob cod post.”
Bydd Mr Burnham yn dweud bod “y tri degawd cyntaf o ddatganoli wedi ymwneud â rhoi llais cenedlaethol cryfach i Gymru”, ond “gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod y tri degawd nesaf yn ymwneud â rhoi'r un llais i bob rhanbarth, pob tref a phob cymuned yng Nghymru hefyd”.
Mae'r adolygiad o golled etholiadol Llafur ym mis Mai wedi'i gynnal gan gwmni ymgynghori Public First.
Bydd yr academydd blaenllaw, yr Athro Anand Menon, yn cyflwyno'r canfyddiadau yn y gynhadledd.
Dywedodd Mr Skates: “Roedd etholiadau'r Senedd yn drobwynt i Lafur Cymru.
“Roedd y canlyniadau'n drychinebus i'r blaid, ac roedd hynny'n amlwg i bawb.
“Ond roedd angen asesu'n wrthrychol y rhesymau dros ein colledion, ac roedd nifer o resymau dros hynny.
“Comisiynodd Llafur Cymru yr adolygiad annibynnol hwn oherwydd bod angen cyfrif gonest arnom o'r rhesymau dros ein colled a'r hyn sydd angen newid."
Ychwanegodd: “Mae’n anodd wynebu’r canfyddiadau, ac rydym yn eu cymryd o ddifrif.
“Roedd pobl yn teimlo ein bod wedi rhoi'r gorau i wrando, nad oedd gwasanaethau cyhoeddus yn gwella'n ddigon cyflym a'n bod wedi cymryd eu cefnogaeth yn ganiataol.
“Ein tasg yw ennill ymddiriedaeth pobl unwaith eto. Byddwn yn gwrando'n ofalus, yn datblygu cynnig clir i Gymru ac yn dangos drwy ein gweithredoedd ein bod wedi dysgu gwersi.”