Caernarfon: Cymeradwyo cais i droi hen adeilad llywodraeth yn fflatiau fforddiadwy
Mae cais i drawsnewid hen adeiladau Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon yn fflatiau fforddiadwy ac yn ganolfan cymorth tai wedi cael ei gymeradwyo gan gynghorwyr.
Cafodd y cais am 37 o fflatiau fforddiadwy ei gymeradwyo’n unfrydol gan bwyllgor cynllunio Cyngor Gwynedd ddydd Llun, a hynny er gwaethaf "pryderon" gan "nifer" o drigolion lleol.
Mae caniatáu’r cais yn amodol ar fodloni pryderon gan Dŵr Cymru am bibellau cyhoeddus.
Roedd y cais yn cynnig ailddatblygu Adeilad y Goron ym Mhenrallt Uchaf, gan ddarparu 25 fflat un ystafell wely, 10 fflat dwy ystafell wely a dwy fflat tair ystafell wely.
Byddai’r fflatiau’n cael eu defnyddio i ddarparu llety sefydlog i bobl sy’n aros am gartrefi parhaol, gan leihau dibyniaeth y Cyngor ar westai a llety gwely a brecwast.
Yn ôl ffigyrau’r Cyngor, roedd 1,370 o ymgeiswyr ym Mandiau 1A a 2 ar gofrestr aros tai cymdeithasol Gwynedd ym mis Medi.
Mae’r cynlluniau hefyd yn cynnwys gosod paneli solar, pympiau gwres, lifft newydd a chreu gardd i breswylwyr.
Wrth drafod y cais ddydd Llun, dywedodd yr aelod lleol, y cynghorydd Cai Larsen fod yna “angen dybryd” am lety i bobol sydd yn aros am gartref parhaol.
“Mae yna broblem sylweddol yng Nghaernarfon o ran darparu cartref cymdeithasol i bawb sydd angen un.
“Dwi'n gwybod hyn oherwydd bod pobl yn dod ato fi fel cynghorydd yn rheolaidd i gael cymorth wrth chwilio am dai, a phobl sydd yn aml wedi bod ar restr aros am flynyddoedd, ac mae straeon personol rhai o'r bobl yma yn drychinebus felly.
“Mae'r cynllun yma yn cynnig cyfraniad pwysig at ddiwallu'r angen hwnnw ac mae dod ag adeilad mawr sydd wedi bod yn wag yn ôl i ddefnydd hefyd yn rhywbeth i groesawu.”
Dywedodd hefyd bod yn “rhaid cymryd pryderon trigolion o ddifrif”, gan ychwanegu bod sawl mesur wedi’u cymryd i liniaru eu pryderon.
Ymhlith y mesurau, dywedodd y byddai gwydr cymylog yn cael ei osod mewn rhai o ffenestri’r adeilad i warchod preifatrwydd trigolion cyfagos, yn ogystal â mesurau i reoli sŵn a gwelliannau i fynediad a diogelwch cerddwyr.
“Mae'n gwbl ddealladwy fod pobl yn poeni am effaith datblygiad o'r maint hwn ar eu bywydau bob dydd, yn enwedig o ran preifatrwydd, sŵn, parcio a'r defnydd o'r ardal o gwmpas yr adeilad.
“Mae'n gwbl bosib cefnogi'r egwyddor o ddarparu'r llety yma gan gydnabod pryderon dilys y trigolion a disgwyl i'r cyngor wneud popeth rhesymol i fynd i'w afael â nhw.”
Clywodd y cyfarfod y byddai parcio i drigolion y fflatiau yn cael ei ddarparu mewn yn adeilad maes parcio aml-lawr i weithwyr y cyngor sy’n gyfagos.
Dywedodd Pennaeth Cynorthwyol Adran Gynllunio'r Cyngor, Gareth Jones, ei fod yn “hyderus” bod modd datrys pryderon Dŵr Cymru ynglŷn â phibellau cyhoeddus sydd yn croesi safle’r datblygiad, ar ôl derbyn sylwadau pellach fore Llun.
Hanes yr adeilad
Cyn adeiladu Adeiladau’r Goron yn y 1970au, roedd y safle’n gartref i’r Pafiliwn enwog a oedd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer cyfarfodydd gwleidyddol, digwyddiadau diwylliannol a chyngherddau.
Ymhlith y rhai oedd wedi ymddangos yno, roedd y cyn Brif Weinidog, David Lloyd George.
Yn ôl y dogfennau cynllunio, roedd yr adeilad ar brydles i’r llywodraeth rhwng 1939 a 1956.
Erbyn dechrau’r 1960au roedd wedi dirywio’n sylweddol, ac yn 1961 daeth penderfyniad i'w ddymchwel.
Cafodd hen Adeiladau’r Goron eu hadeiladu ar y safle yn 1974.
Er nad yw’r adeilad wedi’i restru, mae wedi bod yn destun dadlau dros y blynyddoedd.
Mae rhai pobl leol yn ei alw’n "Alcatraz" oherwydd ei ymddangosiad concrit trawiadol.
