Gwrthod rhyddhau Charles Bronson o'r carchar am y nawfed tro

Charles Bronson

Mae un o garcharorion mwyaf adnabyddus Prydain, Charles Bronson, wedi cael ei wrthod rhag cael ei ryddhau o'r carchar yn dilyn ei nawfed gwrandawiad parôl.

Mae Bronson, sydd bellach yn 73 oed ac a dreuliodd gyfnod yn byw yn Aberystwyth yn ei ieuenctid, wedi treulio'r rhan fwyaf o'r 52 mlynedd diwethaf yn y carchar am gyfres o droseddau, gan gynnwys lladrata, troseddau'n ymwneud â drylliau a thrais.

Mae ganddo gysylltiadau teuluol cryf ag Aberystwyth, lle'r oedd ei dad yn rhedeg Clwb Ceidwadwyr y dref ac mae aelodau o'i deulu'n parhau i fyw yn yr ardal. 

Yn ystod ei gyfnod yn y carchar, mae Bronson wedi bod yn gyfrifol am 11 achos o gymryd pobl yn wystlon mewn naw digwyddiad gwahanol.

Roedd ei ddioddefwyr yn cynnwys llywodraethwyr carchardai, meddygon, aelodau o staff ac, ar un achlysur, ei gyfreithiwr ei hun.

Fe gyhoeddwyd penderfyniad y Bwrdd Parôl i beidio â'i ryddhau ddydd Mawrth.

Dros bum degawd yn y carchar

Cafodd Bronson, a gafodd ei eni'n Michael Peterson, ei garcharu am y tro cyntaf yn 1974 pan oedd yn 21 oed.

Fe gafodd ddedfryd o saith mlynedd am droseddau gan gynnwys lladrata, byrgleriaeth waethygedig, ymosod gyda'r bwriad o ladrata a bod â dryll yn ei feddiant.

Dim ond am ddau gyfnod byr y mae wedi bod yn rhydd ers hynny, ac fe wnaeth aildroseddu ar y ddau achlysur.

Yn 2000, fe gafodd ei ddedfrydu i garchar am oes, gydag isafswm o bedair blynedd, ar ôl dal athro mewn carchar yn Hull yn wystl am 44 awr.

Mae Bronson, sydd wedi cael diagnosis o anhwylder personoliaeth gwrthgymdeithasol, wedi cael ei wrthod rhag cael ei ryddhau sawl gwaith ers hynny.

Cais am wrandawiad cyhoeddus

Yn 2023, ei wythfed gwrandawiad parôl oedd yr ail erioed i gael ei gynnal yn gyhoeddus yn y Deyrnas Unedig.

Roedd Bronson, a newidiodd ei gyfenw i Salvador yn 2014, wedi gwneud cais i'w wrandawiad diweddaraf gael ei gynnal yn gyhoeddus hefyd.

Ond fe gafodd y cais ei wrthod oherwydd diffyg adnoddau.

Dywedodd aelod o'r Bwrdd Parôl, Jeremy Roberts CB, ei fod yn fodlon credu bod bwriadau Bronson wrth wneud y cais yn ddiffuant, er ei bod yn debygol bod elfen o geisio sylw hefyd.

Yn ystod ei wrandawiad blaenorol, dywedodd Bronson ei fod yn breuddwydio am gerdded yn droednoeth ar laswellt.

Dywedodd hefyd ei fod am i'w fam oedrannus ei weld yn cael ei ryddhau cyn iddi farw.

"Dyw hi ddim yn gyfrinach fy mod i wedi cael mwy o uwd nag Elen Benfelen a'r Tair Arth, ac rydw i wedi cael llond bol arno," meddai.

"Rydw i wedi cael digon, rydw i eisiau mynd adref."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.