Enwi mam a merch aeth i drafferthion yn y môr ac 'arwr' a geisiodd eu hachub

Grace a Sarah Keeling

Roedd dyn a fu farw yn y môr oddi ar arfordir Dwyrain Swydd Efrog ddydd Gwener yn ceisio achub mam a'i merch yn ei harddegau.

Dywedodd Heddlu Humberside fod Mark Ratcliffe, yn dad-cu 67 oed, wedi mynd i mewn i'r dŵr yn Withernsea i geisio achub Sarah Keeling, 45 oed, a Grace Keeling, 15 oed.

Dywedodd yr heddlu fod cyrff Sarah Keeling a Mark Ratcliffe wedi cael eu darganfod nos Wener, a bod swyddogion yn dal i chwilio i ddod o hyd i Grace.

Mae teulu Mark Ratcliffe wedi ei ddisgrifio fel “arwr” wedi iddo fynd i mewn i’r môr er mwyn ceisio eu hachub. 

Image
Mark Ratcliffe
Mark Ratcliffe

Cafodd swyddogion yr heddlu eu galw i Bromenâd Canolog yn Withernsea am tua 15.15 ddydd Gwener yn dilyn pryderon am bobl yn y môr. 

Mae teuluoedd y dioddefwyr yn parhau i dderbyn cefnogaeth gan swyddogion arbenigol, medd Heddlu Humberside. 

Mewn datganiad yn gynharach ddydd Gwener, fe gyhoeddodd y llu teyrnged gan deulu Mr Ratcliffe. 

Roedd Mr Ratcliffe yn anymwybodol pan gafodd ei dynnu o’r môr gan y gwasanaethau brys. Bu farw yn y fan a’r lle. 

Dywedodd ei deulu: “Roedd yn arwr gwirioneddol anhunanol gyda chalon aur, a gafodd ei gymryd… wrth geisio achub eraill.

“Mae nifer o fywydau bellach wedi’u chwalu oherwydd dy fod di wedi mynd. 

“Roedd cymaint o bobl yn dy garu, a byddwn ni i gyd yn dy golli am byth.

“Gŵr cariadus, tad, mab, brawd a’r tad-cu gorau y gallai unrhyw un erioed ddymuno amdano. Cysga’n dawel, rydyn ni’n dy garu di, rydyn ni’n dy golli di.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.